Caergybi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caergybi
Holyhead, Isle of Anglesea.jpeg
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Caergybi, Ynys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.32°N 4.63°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH2482 Edit this on Wikidata
Cod postLL65 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)

Tref a chymuned yn Ynys Môn ydy Caergybi (Saesneg: Holyhead). Saif ar ochr orllewinol Ynys Gybi ar lan Bae Caergybi, sy'n fraich o Fôr Iwerddon. Mae'r dref yn borthladd mawr: mae sawl fferi yn teithio rhwng Caergybi a Dulyn a yn Iwerddon. Dyma'r dref fwyaf Ynys Môn efo poblogaeth o tua 12,000.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn cychwyn ac yn gorffen yn y dref. Mae yna pont droed fodern yn cystylltu y porthlardd gyda'r gyda'r tref. Yng Nghaergybi, mae yna lawer o fwytai fel Standing Stones, KFC, McDonalds, a Jambos Chinese. Yn ogystal, mae yno lawer o siopau fel Tesco, Poundland, Wilkos, Pets at Home, New Look a Cancer Research wedi'u lleoli yn y dref.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae olion yn dyddio o 2000 C.C. ar gopa Caer y Twr gyda nifer o Gytiau Gwyddelod ar y llethrau deheuol. Mae'n amlwg bod masnach aur a bwyaill cerrig rhwng Prydain ac Iwerddon.

Roedd caer Rufeinig Caer Gybi ar y safle yma o ddiwedd y 3g. Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau'n dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr. Credir bod y gaer yma at ddefnydd llynges Rufeinig. Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu mynachlog.

Eglwys Cybi Sant, Yr Eglwys yng Nghymru

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Goleudai[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ben Mynydd Twr adeiladodd y Rhufeiniaid y goleudy cyntaf yn yr ardal. Heddiw, nid oes ond y seiliau i'w gweld. Mae goleudai newydd yn gweithio ar Ynys Lawd (wrth y mynydd), trwyn y morglawdd (yn y porthladd), Ynys Halen (yn y porthladd) ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bellach allan yn y môr, i'r gogledd.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi ym 1927.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caergybi (pob oed) (11,431)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caergybi) (4,614)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caergybi) (8547)
  
74.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Caergybi) (2,280)
  
43.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Caergybi yw man cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe.

Mae cwmnïau fferi yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Ceir nifer o fysus yn rhedeg yn ardal Caergybi sy'n ei chysylltu â llefydd eraill ar yr ynys. Y pwysicaf yw'r gwasanaethau i Fangor a Llangefni. Mae'r A55 yn dechrau yn y dref. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]