Ynysoedd y Moelrhoniaid
![]() | |
Math | ffurfiant craig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 17.07 ha ![]() |
Gerllaw | Môr Iwerddon ![]() |
Cyfesurynnau | 53.422°N 4.608°W, 53.422041°N 4.607326°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Casgliad o ynysoedd creigiog yw Ynysoedd y Moelrhoniaid (Saesneg: The Skerries) (cyfeiriad grid SH268948). Mae'r ynysoedd yn mesur tua 17 hectar (42 erw) ac yn gorwedd tua 3 km (1.5 milltir) oddi ar Trwyn y Gadair yng ngogledd orllewin Ynys Môn. Mae'r ynysoedd yn berchen i Trinity House ers 1841[1] ac mae goleudy wedi sefyll ar yr ynysoedd ers 1717[1].
Mae'r ynysoedd yn nythfa bwysig i Fôr-wenoliaid y Gogledd, gyda bron i 4,000 o barau yn nythu yno yn 2017.
Daw tarddiad yr enw "Moelrhoniaid" o'r morloi sydd i'w gweld o amgylch yr ynysoedd[2] tra bod yr enw Saesneg "Skerries" yn dod o'r gair Llychlyneg "sker" sy'n golygu ynys greigiog fechan[3].
Adar y Môr[golygu | golygu cod]
Mae'r Moelrhoniaid yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei fod yn nythfa pwysig i Fôr-wenoliaid y Gogledd[4] gyda bron i 4,000 o barau yn nythu ar yr ynysoedd yn 2016 sydd yn golygu ei fod y nythfa fwyaf o Fôr-wenoliaid y Gogledd yn Ynysoedd Prydain[5]. Mae'r ynys hefyd yn gartref i Fôr-wennol gyffredin a'r Fôr-wennol wridog sydd llawer mwy prin.[5] Yn ogystal a'r môr-wenoliaid, mae sawl rhiwiogaeth arall yn nythu ar yr ynysoedd gan gynnwys y Pâl, Gwylan y penwaig, Gwylan gefnddu fach a'r Wylan goesddu[6].
Mae wardeniaid yr RSPB yn edrych ar ôl y nythfa rhwng mis Mai ac Awst tra bod yr adar yn nythu[5].
Goleudy Ynysoedd y Moelrhoniaid[golygu | golygu cod]
Mae goleudy wedi sefyll ar yr ynysoedd ers 1717 wedi i William Trench sicrhau patent gan y Frenhines Anne i adeiladu goleudy am rent o £5 y flwyddyn. Bwriad Trench oedd i godi toll o geiniog ar pob llong a dwy geiniog ar pob tunnell o nwyddau oedd yn pasio'r Moelrhoniaid. Methodd Trench a sicrhau fod y llongau yn talu'r tollau a phan fu farw yn 1729 roedd wedi colli ei ffortiwn[1].
Erbyn i Trinity House brynu'r ynysoedd am £444,984 ym 1841 roedd y goleudy wedi newid o fod yn llosgi glo i fod yn llosgi olew. Ym 1927 newidiwyd y goleudy i fod yn oleudy trydan ac ym 1987 gadawodd y ceidwad llawn amser olaf wrth i'r goleudy ddod yn gwbwl awtomatig[7].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Skerries Lighthouse". Trinity House.
- ↑ "The Skerries". Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
- ↑ "skerry". Dictionary.com.
- ↑ "Holyhead Bay and The Skerries" (PDF). Cyfoeth Naturiol Cymru (pdf).
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "2016 saw the re-tern of the rarest breeding seabird in wales". Roseate Tern Life Project.
- ↑ "The Skerries". RSPB.
- ↑ "From the Skerries to the Smalls, the automation of Welsh lighthouses". BBC.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Goleudy Trinity House: Skerries Lighthouse
- (Saesneg) RSPB: The Skerries