Pâl

Oddi ar Wicipedia
Pâl
Llun y rhywogaeth
Map
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Alcidae
Genws: Fratercula
Rhywogaeth: arctica
Fratercula arctica arctica
Am y rhanbarth Seisnig yn Iwerddon, gweler Y Pâl. Am yr ardal yn Ymerodraeth Rwsia, gweler pâl gwladychiad.

Mae'r Pâl (Fratercula arctica) yn aderyn môr o deulu'r Alcidae sy'n bur gyffredin o gwmpas Môr Iwerydd. Mae'n un o'r adar môr mwyaf adnabyddus, efallai oherwydd y pig mawr lliwgar.

Mae'r Pâl yn byw ar bysgod bach, ac yn eu dal trwy blymio i'r dŵr a'u hymlid trwy nofio dan y dŵr. Yn y gaeaf mae'n treulio ei amser ar y môr ymhell o'r lan, ond yn y tymor nythu mae'n dychwelyd i'r lan i nythu. Defnyddir twll yn y ddaear ar gyfer nythu, er enghraifft mae hen dyllau cwnhingen yn boblogaidd, ac mae achosion wedi eu cofnodi lle mae palod wedi "perswadio"'r cwnhingod i adael eu twll. Fel rheol maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau filoedd o barau. Un cyw sy'n cael ei fagu ar y tro fel rheol. Gellir gweld y rhieni yn hedfan i mewn yn cario pysgod i'r cyw; gallant gario nifer o bysgod bach wedi eu trefnu'n daclus mewn rhes yn y pig.

Mae yn aderyn dipyn yn llai na'r rhan fwyaf o'r teulu megis y Gwylog a'r Llurs, 28–34 cm o hyd a 50–60 cm ar draws yr adenydd. Gellir ei adnabod yn hawdd oddi wrth y pig enfawr gyda phlatiau lliw oren arni a'r bochau gwynion. Mae'r cefn yn ddu a'r bol yn wyn.

Yng Nghymru mae'r Pâl yn aderyn gweddol gyffredin, ond fel rheol yn nythu ar ynysoedd. Mae niferoedd llai ohonynt yn nythu ar y tir mawr mewn ambell le. Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Y pâl ar Ynys Sgomer yn 2021[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014