Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Oddi ar Wicipedia

Safle natur sy'n dod dan lefel isaf cadwraeth yng ngwledydd Prydain yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA neu SoDdGA). Mae'n dynodi safle sydd â bywyd gwyllt, planhigion, daeareg neu forffoleg arbennig. Yn 2006 roedd 1,019 SoDdGA yng Nghymru: cyfanswm o 257,251 hectar (12.1% o holl arwynebedd Cymru).

Cymru[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am sefydlu a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Y corff cyfatebol yn Lloegr yw Natural England, yn yr Alban: NatureScot (Scottish Natural Heritage gynt), ac yng Ngogledd Iwerddon: yr Environment and Heritage Service. Mae'r safle lleiaf (0.004ha) ym Mhenfro mewn hen fwthyn 150 mlwydd oed a ddynodwyd er mwyn gwarchod yr ystlum pedol lleiaf Rhinolophus hipposideros. Mae'r safle mwyaf (24,321 ha) ar Fynydd y Berwyn: rhostir enfawr lle ceir adar ucheldir prin.

Sylfaen cyfreithiol penodi'r safleoedd hyn yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a 1985 yn ogystal â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Rhestr o safleoedd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]