Pencarnisiog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pencarnisiog
Terrace Houses in Pencarnisiog, Anglesey - geograph.org.uk - 123067.jpg
Ynganiad Pencarnisiog.ogg Edit this on Wikidata
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53°17'N, 4°30'W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)

Pentref bychan ar Ynys Môn yw Pencarnisiog ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd: Pencaernisiog). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys ar yr A4080 tua milltir i'r dwyrain o bentref Llanfaelog a thua 8 filltir i'r gorllewin o dref Llangefni.

Ceir dwy ffordd o sillafu enw'r pentref. Yn yr Oesoedd Canol roedd treflan o'r enw Conysiog yno ('Tir Conws'). Tyfodd pentref bychan a galwyd y lle yn 'Penconisiog'. Tybid fod yr enw yn cynnwys y gair caer ac felly cafwyd yr enw 'Pencaernisiog'.[1]

Yn ymyl y pentref ceir siambr gladdu neolithig Tŷ Newydd.

Lleolir Ysgol Pencarnisiog yn y pentref, ysgol gynradd sydd yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Bodedern.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).