Llanbedrgoch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanbedrgoch
Llanbedrgoch St Peters Church, Anglesey.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.3°N 4.2°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH509804 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)
Eglwys Sant Pedr.

Mae Llanbedrgoch ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Llanbedr-goch) yn bentref a phlwyf eglwysig yn ne-ddwyrain Ynys Môn. Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A5025 rhwng Pentraeth a Benllech.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd dau enw amgen ar y pentref a'r plwyf yn y gorffennol, pan fu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, sef:

  • Llanfair Mathafarn Wion. Enw'r plwyf, ar ôl treflan ganoloesol Mathafarn Wion (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a Llanfair Mathafarn Eithaf). Enw arall ar Fathafarn Wion oedd Mathafarn Fechan. Pennaeth lleol oedd Gwion; ceir Croes Wion ger Benllech.[1]
  • Llanfeistr. Enw personol yw 'Meistr' yn yr achos yma.[1]
Pwysau metal a adawyd yn yr ardal gan y Llychlynwyr.

Gwnaed darganfyddiad diddorol yma yn 1994, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1999 gerllaw'r pentref. Ychydig i'r gogledd-orllewin mae gwarchodfa natur Cors Goch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Redknap, Mark Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol (Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2000) ISBN 072000487x

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]