Rhosneigr
![]() | |
Math |
pentref, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
3.47 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
53.2292°N 4.52°W, 53.230564°N 4.52244°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Pentref ar arfordir gorllewinol Ynys Môn yw Rhosneigr ( ynganiad ). Saif ar y briffordd A4080.
Mae traeth bychan gerllaw'r pentref ei hun, a dau draeth mwy, Traeth Cymyran a Thraeth Llydan, gerllaw. Ceir gorsaf reilffordd yno, yn ogystal a nifer o westai a thai bwyta. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant, er fod rhai o'r trigolion yn gweithio ym maes awyr Y Fali gerllaw, i sawl corff arall ac yn hunan-gyflogedig. Mae Llyn Maelog gerllaw a Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg heibio'r pentref.
Mae gweithgareddau hamdden yn cynnwys: nofio, syrffio, hwylfyrddio, sgio dwr, golff, tenis a deifio dan y dwr. Mae'n pentref yn gartref i Glwb Golff Ynys Môn.
Mae ganddo dri phrif draeth:
- Traeth Cymyran sy'n ymestyn o Bwll Cwch at Ynys Wellt. Traeth tywodlyd gyda gologfeydd o'r Wyddfa. Mae hi'n draeth poblogaidd gyda chwmniau chwareon dwr, yn enwedig morwyr a hwylfyrddwyr.
- Pwll Cwch - traeth fechan, creigiog lle mae cychod yn aros dros nos.
- Traeth Llydan - i'r de o Rhosneigr mae Traeth Llydan. Mae'r traeth tywodlyd gyda thwyni tywod a nant sydd yn rhedeg o Lyn Maelog i rannu'r traeth.
Mae'r traeth yn berffaith i gerdded, syrffio a chanwio. Mae'r traeth yn enillydd Gwobr Arfordir Gwyrdd yn rheolaidd.
Bu'r pentref yn boblogaidd yn ystod yr oes Edwardaidd, ac mae'n dal i fod yn bentref glan môr poblogaidd mewn un o lefydd harddaf Ynys Môn, yng ngogledd Cymru.
Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Arfordir Rhosneigr wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele