Gïach bach
Gïach bach Lymnocryptes minima
| |||
---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |||
Teyrnas: | Animalia | ||
Ffylwm: | Chordata | ||
Dosbarth: | |||
Urdd: | Charadriiformes | ||
Teulu: | Scolopacidae | ||
Genws: | Lymnocryptes[*] | ||
Rhywogaeth: | Lymnocryptes minimus | ||
Enw deuenwol | |||
Lymnocryptes minimus
|
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gïach bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gïachod bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lymnocryptes minimus; yr enw Saesneg arno yw Jack snipe. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. minimus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.
Cynnwys
Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r gïach bach yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cyffylog | Scolopax rusticola | |
Cyffylog Amami | Scolopax mira | |
Cyffylog coch | Scolopax saturata | |
Gïach America | Gallinago delicata | |
Gïach Cyffredin | Gallinago gallinago | |
Gïach Mawr | Gallinago media | |
Gïach Swinhoe | Gallinago megala | |
Llydandroed gyddfgoch | Phalaropus lobatus | |
Llydandroed llwyd | Phalaropus fulicarius | |
Llydandroed Wilson | Phalaropus tricolor | |
Pibydd brych | Actitis macularius | |
Pibydd y Dorlan | Actitis hypoleucos | |
Rhostog gynffonddu | Limosa limosa | |
Rhostog gynffonfraith | Limosa lapponica | |
Rhostog Hudson | Limosa haemastica |
Adnabod[golygu | golygu cod y dudalen]
Hawdd adnabod y gïach bach tra'n bwydo allan. Tua 2/3 maint gïach.[clarification needed] Roedd y pig tua un hyd a hanner y pen (mae pig gïach cyffredin uwchben dwywaith hyd y pen). Hefyd bydd yn bownsio i fyny ac i lawr ar ei sodlau mewn modd digri. Yr olwg mwyaf arferol yw wrth godi'r aderyn o lan pwll bychan wrth i chi fod ar fin sathru arno.Nodyn:Fact Mae hyn yn wahanol i'r gïach cyffredin sydd fel petai â llai o ffydd yn ei gudd-liw ac yn codi nifer fawr o fedrau i ffwrdd. Mi hedfanith y gïach bach yn eitha syth ac isel gan lanio nid yn rhy bell i ffwrdd - heb alw o gwbl. Mae'r giach yn codi gan alw yn swnllyd wrth igam-ogamu i'r entrychion a glanio yn bell iawn i ffwrdd.[3]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Rhys Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 70

