Rhosmeirch
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2742°N 4.3106°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentrefan yng nghanol Môn ydyw Rhos-y-Meirch, neu Rhosmeirch ( ynganiad ), heb fod yn bell o'r dref farchnad Llangefni. Mae ystad wledig Tregaian [1] wedi/yn meddu sawl un o eiddo'r pentref. Y B5111 yw'r brif ffordd sy'n mynd drwy'r pentref, ond mae sawl ffordd unigol yn mynd yng nghefnau'r pentref. Un enghraifft penodol o lon gefn sy'n eithaf cyfarwydd i sawl un o'r pentref yw 'lôn Bacsia'; daw' tarddiad yr enw hynafol yma ar ôl y math o esgid y tuedda' geffylau eu gwisgo er mwyn cael gafael gwell ar lonydd / llechweddau mewn rhewlifau. Wedi'i lleoli ar un o lonydd cefn y pentref, ac yn eithaf canolog i'r pentref,mae adeilad yr ysgol, sydd wedi cau ers sawl blwyddyn, fodd bynnag, mae'r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Gymdeithasol. Ynddi, fe gynheilir ambell i ddigwyddiad megis cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol. Yno hefyd, y tuedda'r gangen leol o Ferched y Wawr gyfarfod. Arferai Clwb Ieuenctid gael ei gynnal yn y pentref yn y ganolfan gymdeithasol. Capel Ebenezer, ger 'lôn Bacsia' yw'r unig addoldy yma, er y ceir safle eglwys ganrifoedd oed - Capel Heilyn - yn y pentref (nid oes olion ar ôl). Ar un adeg, arferai'r pentref fod â sawl ffynon ddŵr, ble, mae'n debyg y byddai'r pentrefwyr yn cael eu dŵr yfed. Erbyn heddiw, mae olion y rhan fwyaf o'r ffynhonnau i'w gweld, megis ffynnon Clwch a ffynnon Trefollwyn. Gerllaw y pentref, mae coedwig sy'n eich harwain tuag at Llyn Cefni[2].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Tregaian" (yn cy), Wicipedia, 2021-05-06, https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tregaian&oldid=10916299, adalwyd 2021-11-04
- ↑ "Llyn Cefni".
Trefi
Amlwch ·
Benllech ·
Biwmares ·
Caergybi ·
Llangefni ·
Niwbwrch ·
Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·
Bethel ·
Bodedern ·
Bodewryd ·
Bodffordd ·
Bryngwran ·
Brynrefail ·
Brynsiencyn ·
Brynteg ·
Caergeiliog ·
Capel Coch ·
Capel Gwyn ·
Carmel ·
Carreglefn ·
Cemaes ·
Cerrigceinwen ·
Dwyran ·
Y Fali ·
Gaerwen ·
Glyn Garth ·
Gwalchmai ·
Heneglwys ·
Hermon ·
Llanallgo ·
Llanbabo ·
Llanbedrgoch ·
Llandegfan ·
Llandyfrydog ·
Llanddaniel Fab ·
Llanddeusant ·
Llanddona ·
Llanddyfnan ·
Llanedwen ·
Llaneilian ·
Llanfachraeth ·
Llanfaelog ·
Llanfaethlu ·
Llanfair Pwllgwyngyll ·
Llanfair-yn-Neubwll ·
Llanfair-yng-Nghornwy ·
Llan-faes ·
Llanfechell ·
Llanfihangel-yn-Nhywyn ·
Llanfwrog ·
Llangadwaladr ·
Llangaffo ·
Llangeinwen ·
Llangoed ·
Llangristiolus ·
Llangwyllog ·
Llaniestyn ·
Llannerch-y-medd ·
Llanrhuddlad ·
Llansadwrn ·
Llantrisant ·
Llanynghenedl ·
Maenaddwyn ·
Malltraeth ·
Marianglas ·
Moelfre ·
Nebo ·
Pencarnisiog ·
Pengorffwysfa ·
Penmynydd ·
Pentraeth ·
Pentre Berw ·
Pentrefelin ·
Penysarn ·
Pontrhydybont ·
Porthllechog ·
Rhoscolyn ·
Rhosmeirch ·
Rhosneigr ·
Rhostrehwfa ·
Rhosybol ·
Rhydwyn ·
Talwrn ·
Trearddur ·
Trefor ·
Tregele