Llanfechell

Oddi ar Wicipedia
Llanfechell
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMechell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMechell Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.391624°N 4.455582°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH369912 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Mechell, Ynys Môn, yw Llanfechell ("Cymorth – Sain" ynganiad )). Saif yng ngogledd yr ynys tua 2 filltir i'r de o bentref Cemaes, ar yr arfordir i'r gogledd, a milltir i'r de o bentref Tregele, lle mae lôn yn rhedeg o'r pentref hwnnw i Lanfechell.

Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth y pentref yw 1,293. Yn y pentref mae eglwys, tafarn (Y Cefn Glas), caffi (Caffi Siop Mechell), ysgol gynradd (Ysgol Gymuned Llanfechell), siop (Siop Isfryn) a dau gapel (Ebeneser a Libanus).

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Meini hirion Llanfechell
Capel Libanus Chapel - geograph.org.uk - 1263315

Enwir yr eglwys a'r pentref ar ôl Sant Mechell (neu Mechyll), fab Echwydd ap Gwyn Gohoyw, a flodeuai yn y 5g. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref presennol.

Mae rhannau o'r eglwys, sydd ar ffurf croes, yn dyddio i'r 12g. Ychwanegwyd cangell yn y 13g a chlochdy yn yr 16g. Mae'r bedyddfaen yn perthyn i'r 12g. Ym mhorth yr eglwys gellir gweld beddfaen gyda cherflun anghyffredin o groes flodeuog arno, sydd i'w ddyddio i'r 13g.

Ceir sawl safle archaeolegol ger y pentref. Fymryn i'r gogledd ceir cromlech ar Foel Fawr ac yn agosaf i'r pentref i'r un cyfeiriad ceir triongl o feini a elwir yn Feini Hirion. Hanner milltir i'r dwyrain ceir maen hir ar dir Carrog. Yng nghyffiniau Mynydd Mechell ceir Maen Arthur.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

Pobl o Lanfechell[golygu | golygu cod]

William Bulkeley 1691-1760, mân-fonheddwr, ffermwr a dyddiadurwr. Mae hanes ei ddyddiaduron helaeth i’w weld yma [1] a’u cofnodion amaethyddol, ffenolegol a hinsoddol yn gyrchadwy yma [2] ar wefan prosiect Llên Natur.

Imogen Longman

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]