William Bulkeley

Oddi ar Wicipedia
William Bulkeley
Ganwyd4 Tachwedd 1691 Edit this on Wikidata
Llanfechell Edit this on Wikidata
Bu farw1760 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdyddiadurwr Edit this on Wikidata

Tirfeddiannwr a dyddiadurwr o'r Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn oedd William Bulkeley (4 Tachwedd 1691 – Hydref 1760). Roedd yn aelod o deulu uchelwrol a dylanwadol y Bwcleiaid.

Cadwyd dau o'i ddyddiaduron, un o 30 Mawrth 1734 hyd 8 Mehefin 1743, ac un arall o 1 Awst 1747 hyd 28 Medi 1760. Maent yn llawn o wybodaeth am Fôn, yn enwedig cwmwd Talybolion: materion o ddydd i ddydd y teulu, arferion cymdeithasol a'r eglwys. Llawn o ragfarnau rhyfedd hefyd; Ceir beirniadaeth lem ar bregethau rheithor Llanfechell er bod hwnnw'n dipyn o lenor ac yn perthyn yn weddol agos i Bulkeley ac yn sgweier yn ei hawl ei hun; ceir hefyd geiriau dirmygus o Walpole a'r Whigiaid.

Yn ôl Thomas Richards (1878-1962): dyn 'piwus, direidus, llawn pryfoclyd oedd Bulkeley: annhebyg fod iddo ddim cydymdeimlad a'r Methodistiaid, a gellir meddwl amdano yn cael llawer o hwyl am ben ysweiniaid a chlerigwyr drwy gogio bod yn Fethodus. Rhoddodd loches i William Prichard yr Annibynnwr ar ran o'i ystad, nid am ei fod yn credu yn yr egwyddorion y safai Prichard drostynt, ond er mwyn pryfocio is-iarll Baron Hill a Troughton o Fodlew a oedd wedi troi William Prichard allan o'u ffermydd.'

Baron Hill

Dywedir ei fod yn dipyn o Gymro; ac roedd yn ddrwg ganddo weld ei ferch Mary yn priodi 'Philistiad o Sais' o'r enw Fortunatus Wright, bragwr o Lerpwl. Cangen Brynddu oedd y fwyaf annibynnol ei hysbryd a gododd o foncyff Baron Hill. Bwcle oedd William Bulkeley serch hynny; pan ddaeth angladd y 5ed is-iarll ym Mawrth 1739 roedd yn un o'r cyntaf i gael ei wahodd yno.

Claddwyd ef ar 28 Hydref 1760.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]