Bryn y Barwn
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math | plasty gwledig, ystad ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Biwmares ![]() |
Sir | Cymuned Biwmares ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 46 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2669°N 4.1033°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Richard Bulkeley, Thomas Bulkeley, 7fed is-iarll Bulkeley, Richard Bulkeley Williams-Bulkeley, BULKELEY ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Stad a phlasdy gerllaw Biwmares ar Ynys Môn yw Bryn y Barwn (Saesneg: Baron Hill). Yma yr oedd prif breswylfa teulu Bulkeley, a fu'n eithriadol o ddylanwadol ar yr ynys am rai canrifoedd.
Daw'r enw o enw'r bryn lle saif y plasdy. Adeiladwyd y plasdy cyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley. Bu ym meddiant teulu Bulkeley, yn ddiweddarach Williams Bulkeley, hyd nes i gostau cynnal yr adeilad fynd yn ormod i'r teulu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwed y plasdy gan garfan o'r Peirianwyr Brenhinol. Yn ddiweddarach, difrodwyd yr adeilad gan dân, a dim ond gweddillion sydd ar ôl.
Yn Awst 2008, cyhoeddwyd cynlluniau i adfer yr adeilad a'i droi yn fflatiau moethus.[1]
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- William Bulkeley (4 Tachwedd 1691 – Hydref 1760), dyddiadurwr
Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Cyflwr presennol yr adeilad