Richard Bulkeley (bu farw 1621)
| Richard Bulkeley | |
|---|---|
| Ganwyd | 1533 |
| Bu farw | 28 Mehefin 1621 |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o'r Senedd 1563-67, Aelod o Senedd 1604-1611, Member of the 1614 Parliament |
| Tad | Richard Bulkeley |
| Mam | Margaret Savage |
| Priod | Mary Burgh |
| Plant | Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley, Catherine Bulkeley, Penelope Bulkeley |
Aelod o deulu Bulkeley ac Aelod Seneddol dros Ynys Môn oedd Syr Richard Bulkeley, a Gymreigid wethiau fel Rhisiart Bwclai (1533 – 1621).
Roedd yn fab i Syr Richard Bulkeley (bu farw 1573). Daeth y mab yn amlwg fel un o wŷr llys Elisabeth I, brenhines Lloegr, a chofnodir iddi aros gydag ef yn Lewisham. Bu'n Aelod Seneddol dros Fôn o 1563, ac urddwyd ef yn farchog yn 1577. Bu'n ymryson ag Iarll Caelŷr ac Owen Wood o Rosmor, a'i cyhuddodd o ormesu trigolion Biwmares. Cyhuddodd Wood ef hefyd o fod yn rhan o Gynllwyn Babington, ond cafwyd ef yn ddieuog.
Yn 1618, adeiladodd blasdy Baron Hill ger Biwmares, a ddaeth yn brif ganolfan y teulu. Ei etifedd oedd ei fab hynaf Thomas, a urddwyd yn Is-iarll Bulkeley yn 1644. Daeth mab arall, Launcelot Bulkeley, yn archesgob.
| Swyddi gwleidyddol | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Richard Bulkeley |
Custos Rotulorum Môn cyn 1577 – cyn 1584 |
Olynydd: Y Iarll Caerlŷr |
| Rhagflaenydd: Y Iarll Caerlŷr |
Custos Rotulorum Môn cyn 1594 – cyn 1621 |
Olynydd: Rowland White |
| Senedd Lloegr | ||
| Rhagflaenydd: Rowland ap Meredydd |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1563 – 1571 |
Olynydd: Richard Bulkeley |
| Rhagflaenydd: Thomas Holland |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1604 – 1621 |
Olynydd: Richard Williams |