Richard Bulkeley (bu farw 1573)
| Richard Bulkeley | |
|---|---|
| Ganwyd | 1524 |
| Bu farw | 1573 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55, Aelod o Senedd 1571 |
| Tad | Richard Bulkeley |
| Mam | Catherine Griffith |
| Priod | Agnes Needham |
| Plant | Richard Bulkeley (bu farw 1621), Lancelot Bulkeley, Arthur Bulkeley, of Coedan, Elis Bulkeley, Catrin Bulkeley |
Roedd Syr Richard Bulkeley (1524 - 1573) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1549, 1554 a 1571[1]
Fe'i ganed yn 1524, yn fab hynaf Syr Richard Bulkeley, Barwnig, Biwmares, Canghellor a Siambrlen Gogledd Cymru a Catherine ferch Syr William Griffith, Penrhyn.[2]
Urddwyd ef yn farchog yn Berwick yn 1547 gan John, Iarll Warwick a Raglaw Byddin y Brenin yn yr Alban. Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Môn yn 1547, 1552 a 1561, ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1550 a 1558 a Custos Rotulorum Môn 1558-1572.
Bu'n briod ddwywaith: yn gyntaf a Margaret merch Syr Jonn Savage o Rock Savage, Swydd Gaer ac yn ail ag Agnes, merch hynaf Thomas Needham o Shenton. Bu ei fab hynaf Richard hefyd yn AS Sir Fôn, ei ail Fab Thomas yn AS Biwmares a bu ei fab ieuengaf Lawnslot, yn Archesgob Dulyn 1619-1650.
Bu farw yn 1573, yn ôl pob tebyg wedi ei wenwyno gan ei ail wraig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 21 Rhagfyr 2015
- ↑ The History of Parliament online BULKELEY, Sir Richard (by 1524-72), of Beaumaris, Anglesey Archifwyd 2021-05-10 yn y Peiriant Wayback
| Senedd Lloegr | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: William Bulkeley |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1549 – 1549 |
Olynydd: Lewis ab Owain ap Meurig |
| Senedd Lloegr | ||
| Rhagflaenydd: William Lewis |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1554 – 1554 |
Olynydd: William Lewis |
| Senedd Lloegr | ||
| Rhagflaenydd: Richard Bulkeley |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1571 – 1571 |
Olynydd: Lewis ab Owain ap Meurig |