Bryn y Barwn
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Baron Hill)
| Math | plasty gwledig |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Biwmares |
| Sir | Cymuned Biwmares |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 46 metr |
| Cyfesurynnau | 53.2669°N 4.1033°W |
| AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
| Perchnogaeth | Richard Bulkeley (bu farw 1621), Thomas Bulkeley, 7fed is-iarll Bulkeley, Richard Bulkeley Williams-Bulkeley, teulu'r Bulkeley |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
| Manylion | |
Stad a phlasdy gerllaw Biwmares ar Ynys Môn yw Bryn y Barwn (Saesneg: Baron Hill). Yma yr oedd prif breswylfa teulu Bulkeley, a fu'n eithriadol o ddylanwadol ar yr ynys am rai canrifoedd.
Daw'r enw o enw'r bryn lle saif y plasdy. Adeiladwyd y plasdy cyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley. Bu ym meddiant teulu Bulkeley, yn ddiweddarach Williams Bulkeley, hyd nes i gostau cynnal yr adeilad fynd yn ormod i'r teulu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwed y plasdy gan garfan o'r Peirianwyr Brenhinol. Yn ddiweddarach, difrodwyd yr adeilad gan dân, a dim ond gweddillion sydd ar ôl.
Yn Awst 2008, cyhoeddwyd cynlluniau i adfer yr adeilad a'i droi yn fflatiau moethus.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- William Bulkeley (4 Tachwedd 1691 – Hydref 1760), dyddiadurwr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cyflwr presennol yr adeilad
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y porthdai wrth y fynedfa
-
Y plasdy ym 1982
-
"Y Pulpud"
