Rowland ap Meredydd
Gwedd
| Rowland ap Meredydd | |
|---|---|
| Bu farw | 17 g |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1558, Aelod o Senedd 1559 |
Roedd Rowland ap Meredydd (tua 1529 - tua 1600) yn aelod o deulu o uchelwyr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1558 a 1559.[1]
Roedd Rowland yn fab hynaf i Meredydd ap Rhys ap Hywel, Bodowyr, Llanidan a Catherine merch Owain ap Meurig, Bodowen sef chwaer Lewis ab Owain ap Meurig AS Môn 1553 a 1572. Roedd Owain ap Huw AS Niwbwrch 1545 yn gefnder iddo. Priododd Agnes ferch Rhydderch ap Dafydd, Myfyrion, Llanidan, bu iddynt bedwar mab ac un ferch. Roedd Agnes yn chwaer i Rhisiart ap Rhydderch AS Niwbwrch 1541.[2]
Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Sir Fôn rhwng 1555 a 1600.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 26 Rhagfyr 2015
- ↑ History of parliament on line MEREDYDD, Rowland ap (by 1529-1600 or later), of Bodowyr, Anglesey Archifwyd 2015-09-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Rhagfyr 2015
| Senedd Lloegr | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Wiliam Lewis |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1558 - 1558 |
Olynydd: Richard Bulkeley |