Elisabeth I, brenhines Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elisabeth I, brenhines Lloegr
Elizabeth1England.jpg
Ganwyd 7 Medi 1533 Edit this on Wikidata
Palas Placentia Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Mawrth 1603 (in Julian calendarEdit this on Wikidata (69 oed)
Palas Richmond Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tad Harri VIII Edit this on Wikidata
Mam Ann Boleyn Edit this on Wikidata
Llinach Tuduriaid Edit this on Wikidata
Llofnod
Autograph of Elizabeth I of England.svg

Bu Elisabeth I (7 Medi 1533 - 24 Mawrth 1603) yn frenhines Teyrnas Lloegr a Theyrnas Iwerddon rhwng Tachwedd 1558 hyd at ei marwolaeth ym 1603. Roedd yn ferch i Harri VIII ac Anne Boleyn, sef ail wraig Harri VIII, ac yn hanner chwaer i Edward VI a Mari I. Dienyddiwyd Anne Boleyn pan oedd Elisabeth yn blentyn. Cyhoeddwyd bod Elisabeth yn blentyn anghyfreithlon, ac ar farwolaeth Edward VI ym 1553 trosglwyddwyd y goron i’r Fonesig Jane Grey ac anwybyddwyd hawl ei chwiorydd i’r orsedd, sef Mari ac Elisabeth. Disodlwyd Jane Grey ar ôl naw diwrnod ac esgynnodd Mari I i’r orsedd. Yn ystod teyrnasiad Mari, carcharwyd Elisabeth yn Nhŵr Llundain am bron i flwyddyn oherwydd drwgdybiwyd ei bod yn cefnogi gwrthryfelwyr Protestannaidd, ond pan fu farw Mari I enwodd Elisabeth fel ei hetifedd.[1]

Daeth Elisabeth yn Frenhines pan oedd hi'n 25 mlwydd oed. Wedi iddi ddod i’r orsedd ailsefydlodd y ffydd Brotestannaidd, ac felly Protestaniaeth oedd crefydd swyddogol y deyrnas. Dibynnai’n drwm ar gyngor cylch mewnol o gynghorwyr a arweiniwyd gan William Cecil, Barwn 1af Burghley. Roedd teyrnasiad Elisabeth, neu Oes Elisabeth fel y'i gelwir, yn gyfnod cythryblus. Roedd cyffro ac anghytuno crefyddol, a llygaid brenin Ffrainc a brenin Sbaen ar deyrnas Lloegr gan fod Elisabeth yn ddibriod ac yn ddietifedd. Ym 1570 esgymunwyd hi gan y Pab, a gyhoeddodd hefyd ei bod yn blentyn anghyfreithlon ac nad oedd yn rhaid i’w deiliaid fod yn ffyddlon iddi fel eu brenhines. Arweiniodd hyn at nifer o gynllwynion i beryglu ei bywyd a ddarganfuwyd gan wasanaeth cudd ei phrif ysbïwr, Syr Francis Walsingham. Yn ystod ei theyrnasiad bu bygythiadau i geisio cipio ei choron yn gyson, adeg ymosodiad yr Armada Sbaenaidd gan Felipe II, brenin Sbaen a bygythiad o’r gogledd gan Mari Brenhines yr Alban.

Mae Elisabeth yn enwog am beidio priodi, er bod nifer o ddynion wedi gofyn iddi eu priodi. Roedd yn wleidydd craff a chlyfar, yn annibynnol ei phersonoliaeth ac yn benderfynol o ddangos bod ganddi, fel menyw, y sgiliau i reoli a theyrnasu'n gadarn lawn cystal â dyn. Bu farw Elisabeth ym 1603, gan ddod â diwedd i oes y Tuduriaid oherwydd ni chafodd Elisabeth blentyn. Daeth Iago I yn Frenin ar ôl Elisabeth. Pan fu Elisabeth I farw ym 1603 hi oedd yr aelod olaf o linach y Tuduriaid i reoli, a daeth Oes y Tuduriaid i ben.

Roedd pobl oedd â chysylltiadau â Chymru ymhlith ei phrif gynghorwyr a’i chylch mewnol o ffrindiau. Daeth William Cecil (un o ddisgynyddion y teulu Seisyllt o Went)[2] yn brif gynghorydd i Elisabeth I. Fe’i olynwyd gan ei fab Robert, a ddarganfu “Gynllwyn y Powdr Gwn” yn erbyn Iago I. Prif gydymaith Elisabeth oedd Blanche Parry o Sir Faesyfed. Dyn dylanwadol arall yn y llys oedd John Dee – mathemategydd, seryddwr, astrolegydd a dewin. Fe gynghorodd y frenhines i sefydlu trefedigaethau Seisnig dramor, a chredir mai ef a fathodd y term “yr Ymerodraeth Brydeinig”.[3]

Mewn materion polisi tramor, roedd Elisabeth yn bwyllog ac yn aml yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y prif bwerau ar gyfandir Ewrop, sef Ffrainc a Sbaen. Simsan oedd ei hymdrechion i gefnogi’r Protestaniaid yn yr Iseldiroedd gydag adnoddau milwrol. Ond mae ei buddugoliaeth yn erbyn Armada Sbaen ym 1588 yn cael ei chlodfori fel un o’r buddugoliaethau milwrol pwysicaf yn hanes Lloegr.

Clodforwyd ei theyrnasiad fel yr Oes Elisabethaidd oherwydd y llewyrch ym marddoniaeth a dramâu William Shakespeare a Christopher Marlowe a llwyddiannau morwrol Francis Drake a Walter Raleigh. Tuag at ddiwedd ei theyrnasiad, lleihawyd ei phoblogrwydd oherwydd problemau economaidd a milwrol, ond roedd yn bersonoliaeth garismataidd a oedd wedi llwyddo i gadw a chynnal undod ei theyrnas mewn oes pan oedd rhwygiadau mewnol wedi peryglu sefydlogrwydd brenhinoedd mewn gwledydd eraill. Bu ei 44 mlynedd ar yr orsedd yn gyfnod a ddaeth â chadernid i’w theyrnas ac a helpodd i ffurfio hunaniaeth genedlaethol.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Portread prin o Elisabeth cyn esgyn i'r orsedd, gan William Scrots. c.1546

Ganwyd Elisabeth I ym Mhalas Greenwich ac enwyd hi ar ôl ei dwy fam-gu, Elisabeth o Efrog ac Elisabeth Howard.[4] Bedyddiwyd hi ar 10 Medi 1533 ac roedd yr Archesgob Cranmer ymhlith ei rhieni bedydd. Un o'r rhai a gariodd y canopi dros y plentyn tri diwrnod oed adeg y gwasanaeth bedyddio oedd yr Arglwydd Howard o Effingham.[5]

Pan oedd Elisabeth yn ddyflwydd ac wyth mis oed dienyddiwyd ei mam ar 19 Mai 1536, a phedwar mis yn flaenorol roedd Catrin o Aragon wedi marw oherwydd afiechyd. Yn syth wedi dienyddiad ei mam, cyhoeddwyd bod Elisabeth yn blentyn gordderch, ac felly collodd ei lle yn yr olyniaeth i’r orsedd. Un ar ddeg diwrnod wedi dienyddiad Anne Boleyn, priododd Harri VIII ei drydedd wraig, sef Jane Seymour, a fu farw’n fuan wedi genedigaeth eu mab Edward ym 1537. Edward oedd etifedd diamheuol yr orsedd bellach. Penodwyd Elisabeth fel aelod o lys Edward a hi gariodd y fantell fedydd yng ngwasanaeth bedydd Edward.

Ym 1537 penodwyd Catherine Champernowne yn athrawes gartref Elisabeth, a bu’n un o ffrindiau Elisabeth hyd iddi farw ym 1556. Dysgodd Champernowne bedair iaith i Elisabeth: sef Ffrangeg, Fflemeg, Eidaleg a Sbaeneg. Erbyn bod William Grindal wedi ei benodi yn diwtor iddi ym 1544 roedd Elisabeth yn medru ysgrifennu yn y Saesneg, Lladin ac Eidaleg. O dan gyfarwyddyd Grindal daeth yn hyddysg mewn Groeg hefyd.

Yn ystod ei hieuenctid roedd yn cyfieithu gweithiau o’r Saesneg i Eidaleg, Lladin a Ffrangeg ac yn medru cyfieithu gweithiau mewn Lladin a Groeg gan wahanol awduron clasurol. Yn dilyn marwolaeth Grindal ym 1548, derbyniodd ei haddysg oddi wrth Roger Ascham, a oedd hefyd yn diwtor i’w brawd, Edward. Pan ddaeth ei haddysg ffurfiol i ben ym 1550, roedd Elisabeth yn un o fenywod mwyaf dysgedig ei chenhedlaeth. Ar ddiwedd ei hoes, credwyd hefyd bod Elisabeth yn medru siarad Cymraeg, Cernyweg, Gaeleg a Gwyddeleg yn ogystal â’r ieithoedd eraill roedd yn rhugl ynddynt yn barod. Dywedodd y cennad Fenetiaidd ym 1603 bod Elisabeth mor rhugl yn yr ieithoedd hyn fel ei bod yn eu siarad gystal â'i mamiaith. Yn ôl yr hanesydd, Mark Stoyle, mae'n ddigon posib mai William Killigrew, Gwas y Siambr Gyfrin ac yna Canghellor y Trysorlys yn ddiweddarach, oedd wedi dysgu Cernyweg iddi.

Teyrnasiad Mari I[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth i Mari I orymdeithio i Lundain ar ddiwrnod ei choroniad, roedd Elisabeth, ei chwaer, wrth ei hochr.[6] Ond ni fyddai’r chwaergarwch yn para’n hir oherwydd roedd Mari yn Gatholig pybyr ac yn benderfynol o ddiddymu’r ffydd Brotestannaidd. Roedd Elisabeth wedi ei thrwytho yn y ffydd Brotestannaidd ond gorchmynnodd Mari bawb i fynychu'r offeren Gatholig. Roedd yn rhaid i Elisabeth gydymffurfio’n allanol os oedd am oroesi. Lleihaodd poblogrwydd Mari ym 1554 pan gyhoeddodd ei bod yn priodi Felipe o Sbaen, brenin Catholig brwdfrydig a mab yr Ymerawdwr Rhufeinig Siarl V.[7] Lledaenodd anfodlonrwydd ar draws teyrnas Mari a daeth Elisabeth yn ffocws i’r gwrthwynebiad yn erbyn polisïau crefyddol Mari I.

Chwalwyd Gwrthryfel Wyatt rhwng Ionawr a Chwefror 1554[8] a dygwyd Elisabeth i’r llys oherwydd amheuon ynghylch ei rôl yn y gwrthryfel. Carcharwyd hi yn Nhŵr Llundain ym mis Mawrth 1554 er iddi brotestio’n daer ei bod yn ddieuog. Bu cynghorwyr agosaf Mari yn ceisio ei pherswadio i ddod ag Elisabeth gerbron llys er mwyn ei chwestiynu, ond erbyn 1558 roedd Mari yn sâl, ac wythnos cyn ei marwolaeth ar 17 Tachwedd 1558, cydnabu mai Elisabeth oedd ei hetifedd.[9]

Esgyn i’r orsedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Elisabeth I yn ei gwisg coroni

Roedd Elisabeth yn 25 mlwydd oed pan esgynnodd i’r orsedd ym 1558, ac fel cydnabyddiaeth o’i statws newydd daeth ei Chyngor a boneddigion eraill i Hatfield House i dyngu llw o ffyddlondeb iddi. Wrth iddi orymdeithio drwy Lundain ar y noson cyn ei choroniad, rhoddwyd croeso cynnes a thwymgalon iddi gan ddinasyddion y ddinas. Ar y diwrnod canlynol, 15 Ionawr 1559, sef dyddiad a ddewisiwyd gan ei astrolegydd, John Dee,[10] coronwyd ac eneiniwyd Elisabeth yn frenhines gan Owen Oglethorpe, esgob Catholig Caerliwelydd, yn Abaty Westminster. Yna, cyflwynwyd hi ar gyfer cael ei derbyn gan y bobl, yng nghanol ffanffer o drympedi, drymiau, clychau, organau a phibau. Cafodd groeso fel Brenhines Lloegr, ond roedd y deyrnas yn parhau i boeni am y bygythiad honedig oddi wrth y Catholigion ym Mhrydain a thramor, ac roedd y cwestiwn ynghylch pwy fyddai Elisabeth yn ei briodi yn destun trafod blaenllaw ymhlith deiliaid ei theyrnas.[11]

Priodi ai peidio[golygu | golygu cod y dudalen]

O ddechrau ei theyrnasiad roedd pwy fyddai Elisabeth I yn ei briodi yn bwnc llosg a dadleuol. Er ei bod wedi cael sawl cynnig i briodi, ni wnaeth erioed briodi na chael plant. Tra byddai priodi yn golygu y byddai’n colli ei phŵer ac awdurdod, fel y digwyddodd ym mhriodas ei chwaer Mari I gyda Felipe II o Sbaen, roedd priodi yn cynnig y cyfle i gael etifedd.

Ymhlith ei charwriaethau mwyaf difrifol roedd Robert Dudley, Iarll 1af Caerlŷr, a fu’n ffefryn yn llys Elisabeth am hyd at 30 mlynedd. Bu Elisabeth yn ystyried o ddifri priodi Dudley, ond mynegodd ei chynghorwyr, William Cecil, Nicholas Throckmorton a rhai o’r arglwyddi eraill eu bod yn meddwl y byddai hyn yn gamgymeriad.[12]

Roedd y cwestiwn ynghylch priodi yn elfen bwysig ym mholisi tramor Elisabeth. Gwrthododd briodi Felipe o Sbaen ym 1559 a bu’n ystyried cynnig y Brenin Eric XIV o Sweden am sawl blwyddyn. Bu hefyd yn ystyried ymgais cefnder Felipe, sef yr Archddug Siarl o Awstria, am nifer o flynyddoedd, ond erbyn 1569 roedd perthynas Lloegr gyda’r Habsbwrgiaid wedi dirywio cymaint fel bod Elisabeth wedi ystyried priodi dau dywysog o Ffrainc, sef Henry, Dug Anjou, ac yna rhwng 1572 a 1581 ei frawd Francis, Dug Anjou. Roedd y cynnig priodas gan Francis yn gysylltiedig â chynllun i gynghreirio yn erbyn rheolaeth Sbaen dros Dde'r Iseldiroedd.[13]

Daeth mater priodi yn destun trafod mwy difrifol pan fu Elisabeth bron â marw ym 1563 pan gafodd y frech wen. Daeth mater yr olyniaeth yn destun trafod yn y Senedd ac anogwyd y frenhines naill ai i briodi, neu benodi olynydd, er mwyn osgoi rhyfel cartref pan fyddai’n marw. Gwrthododd Elisabeth wneud y naill na'r llall.

Erbyn 1570, roedd unigolion blaenllaw yn llywodraeth Elisabeth wedi derbyn na fyddai’r frenhines yn debygol iawn o briodi nac ychwaith yn debygol o enwi olynydd. Roedd William Cecil yn chwilio’n gyson am ddatrysiadau i broblem yr olyniaeth. Cyhuddwyd Elisabeth o fod yn anghyfrifol, ond eto ei distawrwydd oedd cryfder ei sefydlogrwydd gwleidyddol ar yr orsedd. Sylweddolai os byddai’n enwi etifedd y byddai ei choron yn agored i wrthryfel. Roedd yn cofio'n ôl i’r cyfnod pan mai hi oedd olynydd ei chwaer, Mari I.[14]

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth Cymru a Lloegr yn swyddogol Brotestannaidd pan esgynnodd Elisabeth I i orsedd Lloegr ym 1559, ac yn dilyn cyflwyno'r Cytundeb Protestannaidd cadarnhawyd mai Protestaniaeth fyddai crefydd swyddogol teyrnas newydd Elisabeth.

Credai Elisabeth a’i chynghorwyr bod y Catholigion yn cynllwynio crwsâd yn erbyn Lloegr, sef gwlad hereticaidd yn eu golwg hwy. Ceisiodd Elisabeth felly chwilio am ddatrysiad Protestannaidd, na fyddai’n digio’r Catholigion yn ormodol tra ar yr un pryd yn plesio dymuniadau Protestaniaid Lloegr. Roedd Elisabeth yn ddiamynedd ei hagwedd gyda Phiwritaniaid radicalaidd, a oedd yn ei golwg hi yn gwthio am ddiwygiadau rhy eithafol.[15]

O ganlyniad, dechreuodd y Senedd drafod deddfwriaeth ar gyfer eglwys newydd Elisabeth a fyddai’n seiliedig ar gytundeb Protestannaidd Edward VI, gyda’r brenin/brenhines yn bennaeth, ond a oedd yn cynnwys elfennau Catholig, fel gwisg offeiriaid.[15] Roedd Eglwys Brotestannaidd Elisabeth yn gyfaddawd cymhedrol, a oedd yn troedio’n ofalus rhwng y ddwy grefydd mewn oes pan oedd crefydd yn achos cynnen a gwrthdaro rhwng gwahanol garfannau yn y gymdeithas. Erbyn y 1560au, roedd Rhyfel Cartref Crefyddol Ffrainc wedi dechrau rhwng yr Hiwgenotiaid a’r Catholigion, ac roedd hwn yn rybudd clir i Elisabeth am yr anhrefn a allai gael ei achosi gan bwnc llosg crefydd.[16]

Pasiwyd y Ddeddf Oruchafiaeth ym mis Mai 1559 a oedd yn sefydlu Eglwys Brotestannaidd Elisabeth yn swyddogol. Gyda’r deddfwriaeth hon penodwyd Elisabeth yn Llywodraethwr Goruchaf Eglwys Loegr (Supreme Governor of the Church of England) ac roedd yn rhaid i swyddogion cyhoeddus dyngu llw o ffyddlondeb i’r frenhines fel y llywodraethwr goruchaf neu byddent yn cael eu diswyddo; cafodd y cyfreithiau hereticiaeth eu diddymu, er mwyn osgoi’r erledigaeth erchyll yn erbyn anghydffurfwyr crefyddol, a oedd mor gyffredin adeg teyrnasiad Mari I.

Rhan arall o’r ddeddfwriaeth newydd oedd Deddf Unffurfiaeth a wnai hi’n orfodol mynychu’r eglwys, a chyhoeddwyd y byddai’r Beibl, y gwasanaethau a'r llyfrau gweddi yn y Saesneg. Fersiwn ddiwygiedig o Lyfr Gweddi Gyffredin 1552 fyddai’n cael ei defnyddio mewn gwasanaethau, ac roedd hwn yn gyfaddawd rhwng barn y Protestaniaid a Chatholigion ar y Cymundeb.[17]

Er hynny, nid oedd y dirwyon neu’r gosb am reciwsantiaeth, neu methu mynychu a chydymffurfio, yn ormodol nac yn eithafol ar y cyfan. Gwrthododd rhai Catholigion blaenllaw gytuno ar y trefniant hwn - er enghraifft, Cardinal William Allen, a wrthododd dyngu llw o ffyddlondeb yn ôl y Ddeddf Oruchafiaeth ac a ffodd i Rufain.[18][19]

Bygythiad y Catholigion[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel ei chyndeidiau, sylweddolai Elisabeth ei bod yn bwysig iddi sefydlu ei hawdurdod o gychwyn cyntaf ei theyrnasiad. Yn wyneb hynny, roedd crefydd yn fygythiad i’w theyrnasiad o’r cychwyn. Mewn cyfnod pan oedd crefydd yn destun a oedd yn creu tensiynau, anghytuno a gwrthdaro gwaedlyd yn aml, daeth Elisabeth yn darged ar gyfer cynllwynion Catholig yn negawd cyntaf ei theyrnasiad. Cafodd ei hesgymuno gan y Pab o’r Eglwys Gatholig ym 1570 ac felly teimlai’r frenhines fwy o dan berygl oddi wrth y bygythiad Catholig oherwydd hynny. Roedd Elisabeth felly'n cosbi ei gelynion Catholig yn llym - er enghraifft, ym 1584 cafodd dau Gymro, Edward Jones a Thomas Salisbury, eu dienyddio am eu rhan yng Nghynllwyn Babington.[3][17]

Mari, Brenhines yr Alban[golygu | golygu cod y dudalen]

Wynebodd Elisabeth fygythiadau i’w gorsedd oddi wrth ei chyfnither Gatholig, sef Mari, Brenhines yr Alban, ac oddi wrth y Brenin Felipe II o Sbaen pan lansiwyd yr Armada ym 1588.

Roedd Mari yn gyfnither i Elisabeth, ond yn ystod teyrnasiad Elisabeth daeth Mari yn fwy o fygythiad i Elisabeth gan ei bod hi'n ffocws cynyddol i nifer o gynllwynion Catholig i ddiorseddu Elisabeth. Daeth Mari yn Frenhines yr Alban yn dilyn marwolaeth ei thad, Iago V, pan oedd hi'n wythnos oed, a magwyd hi yn y ffydd Gatholig yn Ffrainc. Pan oedd hi'n 16 oed priododd frenin ifanc Ffrainc, sef y ‘dauphin’. Gyda’i gŵr yn dod yn frenin Ffrainc, daeth Mari yn Frenhines Ffrainc a’r Alban. Fel cyfnither i Elisabeth roedd ganddi hawl ar goron Lloegr drwy chwaer Harri VIII, sef Margaret, a oedd wedi priodi Iago IV, Brenin yr Alban. Ystyriwyd Mari gan lawer, yn enwedig Catholigion, fel yr etifedd cyfiawn i orsedd coron Lloegr.[20]

Ym 1565 priododd Mari â Henry Stuart, Arglwydd Darnley, a oedd hefyd yn gallu hawlio gorsedd Lloegr. Roedd Darnley yn unigolyn amhoblogaidd, a llofruddiwyd ef yn Chwefror 1567 gan gynllwynwyr, a oedd yn fwy na thebyg dan arweiniad James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell. Yn fuan wedi’r llofruddiaeth, priododd Mari a Bothwell ar 15 Mai 1567. Oherwydd amheuon bod Mari yn rhan o gynllwyn i lofruddio ei gŵr, a oedd hefyd yn gefnder iddi, cafodd ei charcharu yng Nghastell Loch Leven. Roedd y bonedd yn yr Alban yn mynd yn fwy gelyniaethus tuag ati, ac wrth iddi adael yr Alban, gorfodwyd hi i ildio ei hawl ar goron yr Alban, a’i roi i’w mab bach, sef Iago VI, a anwyd ym Mehefin 1566. Aethpwyd ag Iago i Gastell Stirling er mwyn iddo gael ei fagu fel Protestant. Dihangodd Mari o Gastell Loch Leven ym 1568.

Ym 1568, wedi iddi ddianc o’r castell, ffodd Mari i Loegr, gan obeithio cael lloches gan Elisabeth I. I ddechrau, bwriad Elisabeth oedd bod Mari, ei chyfnither a’i chyd-frenhines, yn dychwelyd i’r Alban gyda chefnogaeth byddin o Loegr, ac yn adfer ei hawl ar orsedd yr Alban. Dewis arall oedd ei hanfon i Ffrainc ac i blith gelynion Catholig Lloegr, ond roedd hyn yn ormod o fygythiad i Loegr. Penderfynodd Elisabeth felly ei chadw yn Lloegr. Carcharwyd hi yno am bron i 20 mlynedd, ac yn ystod y blynyddoedd hynny darganfuwyd bod ganddi rôl ganolog mewn llawer o gynllwynion Catholig i ddiorseddu Elisabeth.

Cadwyd llygad barcud ar Mari tra'r oedd hi yn y carchar yn Lloegr gan brif ysbïwr Elisabeth I, sef Syr Francis Walsingham, a oedd yn raddol yn crynhoi tystiolaeth yn ofalus ac yn drylwyr er mwyn medru ei chyhuddo o deyrnfradwriaeth.[21] Chwiliwyd am dystiolaeth o’i rôl yng Nghynllwyn Ridolfi ym 1571, ac yn y diwedd cafwyd hi’n euog o fod yn rhan o Gynllwyn Babington ym 1587. Cafwyd hi’n euog o deyrnfradwriaeth a dedfrydwyd hi i’r gosb eithaf. Roedd Elisabeth wedi gorfod plygu yn y diwedd i’r dystiolaeth a’r ohebiaeth ddiamheuol ynghylch cyfraniad Mari at y cynllwyn, ac er ei bod hi'n anfodlon, bu’n rhaid iddi lofnodi gwarant dienyddio ei chyfnither a’i chyd-frenhines, ym 1587.[22]

Ar 8 Chwefror 1587, dienyddiwyd Mari yng Nghastell Fotheringay, swydd Northampton. Wedi dienyddiad Mari, honnodd Elisabeth nad oedd hi wedi bwriadu llofnodi’r warant dienyddio, a rhoddodd y bai ar ei Hysgrifennydd, William Davison, am weithredu’r warant heb yn wybod iddi hi. Mae’n amlwg bod penderfyniad mor derfynol yn pwyso ar ei chydwybod a’i bod o bosib wedi difaru canlyniadau ei phenderfyniad.[23]

Rhyfeloedd, fforio a masnach[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Armada, 1588[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Armada Sbaen

Yr her fwyaf bygythiol o dramor a wynebodd Elisabeth yn ystod ei theyrnasiad oedd yr Armada. Roedd yr Armada yn fflyd o longau Sbaenaidd a hwyliodd i Loegr ym 1588 o dan arweiniad Medina Sidonia gyda’r bwriad o ddiorseddu'r frenhines Brotestannaidd, Elisabeth I.

Ar ôl blynyddoedd o densiwn penderfynodd Felipe II ymosod ar Loegr gyda’i lynges, Yr Armada. Roedd Yr Armada yn llynges bwerus iawn, gyda 122 o longau a thua 30,000 o filwyr a morwyr ar fwrdd y llongau yn barod i ymosod. Ar 12 Gorffennaf 1588 hwyliodd fflyd o longau’r Armada Sbaenaidd ar draws Môr Udd o Ffrainc tuag at Loegr, a bwriad y Sbaenwyr oedd y byddai fflyd o longau Sbaenaidd, dan arweiniad Dug Parma, yn dod draw o’r Iseldiroedd i gynorthwyo’r Armada gyda’r goresgyniad. Roedd gan Elisabeth nifer o forwyr profiadol - yn eu plith, Francis Drake, Martin Frobisher, John Hawkins a’r Arglwydd Howard o Effingham. Yn ffodus i’r Saeson, penderfynodd y Sbaenwyr ymosod yng nghanol stormydd a gwyntoedd cryfion. Ynghyd â’r stormydd, roedd tactegau Francis Drake, rheolwr Llynges Lloegr, i anfon ‘llongau tân’ i ganol yr Armada ar 29 Gorffennaf wedi golygu bod y galiynau Sbaenaidd wedi gorfod ffoi mewn braw i Fôr y Gogledd ac wedi cael eu gwasgaru i ganol tywydd garw.[24]

Portread yn coffáu trechu Armada Sbaen

Chwalwyd yr Armada a hwyliodd gweddillion yr Armada yn ôl i Sbaen, gyda llawer o’r llongau yn cael eu colli ar hyd arfordir Iwerddon. Roedd rhai wedi ceisio mynd o gwmpas arfordir Gogledd yr Alban a hwylio drwy Fôr y Gogledd ac yna yn ôl ar hyd arfordir gorllewinol Iwerddon i gyfeiriad y de. Yn ddiarwybod bod yr Armada wedi dioddef y fath anffawd, casglwyd milisia ynghyd yn Lloegr o dan arweiniad Iarll Caerlŷr yn barod ar gyfer amddiffyn y deyrnas. Gwahoddodd Elisabeth i arolygu eu lluoedd yn Tilbury yn Essex ar 8 Awst. Gan wisgo brestblad (breastplate) arian dros ffrog felfed wen, traddododd Elisabeth un o’i anerchiadau mwyaf enwog i’r lluoedd oedd wedi crynhoi o’i blaen:

Fy mhobl annwyl...Gwn fod gennyf gorff gwan ac eiddil menyw, ond mae gennyf galon a stumog brenin, a hwnnw’n Frenin Lloegr hefyd, ac sy’n wfftio’n ddirmygus at Parma neu Sbaen, neu unrhyw Dywysog yn Ewrop a feiddia oresgyn ffiniau fy nheyrnas.[25]

Pan na ddaeth ymosodiad bu llawenydd mawr a gorfoledd ar draws teyrnas Elisabeth. Roedd ysblander gorymdaith fuddugoliaethus Elisabeth I ar ei ffordd draw i wasanaeth o ddiolch yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl, Llundain, yn cyfateb i'r hyn a welwyd ar achlysur ei choroni.

Gan hynny, roedd Elisabeth wedi llwyddo i wrthsefyll yr ymosodiad, gydag Armada Sbaen yn colli 44 o’i llongau allan o gyfanswm o 130. Bu trechu'r Armada yn fuddugoliaeth bwysig o ran propaganda i Elisabeth fel brenhines ac i Loegr fel teyrnas Brotestannaidd. Gwelai’r Saeson eu buddugoliaeth fel symbol o ffafr Duw a sancteiddrwydd y deyrnas o dan arweinyddiaeth y frenhines wyryf. Ond er bod y goresgyniad wedi ei ddryllio, roedd y rhyfel ehangach rhwng Lloegr a Sbaen yn parhau. Gan fod y Sbaenwyr yn parhau i reoli taleithiau deheuol yr Iseldiroedd roedd y bygythiad o oresgyniad yn dal i fodoli.

Ym 1589, flwyddyn wedi’r Armada Sbaenaidd, anfonodd Elisabeth yr Armada Seisnig neu’r Gwrth-Armada i Sbaen, gyda 23,375 o ddynion a 150 o longau, o dan arweiniad Syr Francis Drake fel llyngesydd a Syr John Norreys fel cadfridog. Cafodd y Saeson golledion enbyd, gyda rhwng 11,000 a 15,000 yn cael eu lladd, eu hanafu neu’n marw oherwydd afiechyd.

Suddwyd neu cipiwyd 40 o longau. Collwyd y manteision roedd Lloegr wedi eu hennill drwy ddinistrio'r Armada Sbaenaidd ym 1588 ac roedd buddugoliaeth y Sbaenwyr ym 1589 yn dynodi adferiad ym mhŵer milwrol Felipe a wnaeth barhau am y degawd nesaf.[26]

Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Wynebodd Elisabeth wrthwynebiad chwyrn yn Iwerddon i’w Heglwys Brotestannaidd. Roedd y Gwyddelod yn glynu’n dynn wrth eu ffydd Gatholig ac yn herio ei hawdurdod drwy gynllwynio gyda’i gelynion. Ymateb Elisabeth i hyn oedd rhoi tir i’w gwŷr llys - er enghraifft, Humphrey Gilbert a Walter Raleigh,[27] yn Iwerddon, o gwmpas ardal Ulster a Munster. EI bwriad oedd sefydlu trefedigaethau i wladychu’r wlad ac atal y gwrthryfelwyr rhag darparu lleoliad parod i Sbaen er mwyn ymosod ar Loegr.[28] Yn sgil cyfres o wrthryfeloedd, mabwysiadodd coron Lloegr dactegau llosgi tir gan ddinistrio’r tir a lladd y trigolion oedd yn byw arno. Adeg gwrthryfel yn Munster ym 1582 o dan arweinyddiaeth Gerald FitzGerald, 15fed Iarll Desmond, amcangyfrifwyd bod tua 30,000 o Wyddelod wedi newynu i farwolaeth. Cafodd y gyflafan fawr a thorcalonnus ei disgrifio gan y bardd Edmund Spenser.

Roedd 1594-1603 yn gyfnod cythryblus yn Iwerddon, a adnabuwyd fel y Rhyfel Naw Mlynedd. Roedd hwn yn wrthryfel a ddigwyddodd pan oedd y tensiynau rhwng Lloegr a Sbaen ar eu hanterth, a phan oedd Sbaen yn gefnogol i arweinydd y gwrthryfel, sef Hugh O’Neill, Iarll Tyrone. Yng ngwanwyn 1559 anfonodd Elisabeth Robert Devereux, 2il Iarll Essex, i chwalu’r gwrthryfel, ond bu hwnnw’n aflwyddiannus a dychwelodd i Loegr er gwaethaf gorchmynion Elisabeth iddo beidio. Penodwyd Charles Blount, Arglwydd Mountjoy, yn ei le, a chymerwyd tair blynedd i chwalu’r gwrthryfel. Ildiodd O’Neill ym 1603, ychydig ddiwrnodau ar ôl marwolaeth Elisabeth, ac yn fuan wedyn llofnodwyd cytundeb heddwch rhwng Lloegr a Sbaen.[29]

Oes Fforio[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd teyrnasiad Elisabeth I yn gyfnod pwysig o ran fforio a masnach ryngwladol. Erbyn cyfnod y Tuduriaid roedd Lloegr, ynghyd â Phortiwgal, Sbaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd, ymhlith gwledydd morwrol mwyaf pwerus y byd. Ymfalchïai’r gwledydd hyn bod ganddynt forwyr abl oedd yn medru lansio teithiau fforio er mwyn perchnogi a chipio cyfoeth tiroedd ar draws y byd. Roedd lluoedd morwrol oedd yn cynnwys fflyd o longau yn hollbwysig er mwyn dod â sbeisys, perlysiau, cotwm a nwyddau gwerthfawr eraill yn ôl o’r tiroedd hynny. Defnyddiodd Elisabeth I chwedloniaeth Gymreig, hyd yn oed, i hyrwyddo ei chefnogaeth i fforio. Dyna a wnaeth pan ddefnyddiodd y chwedl am y tywysog canoloesol Madog ap Owain o Wynedd a’i daith i America ddiwedd y 12fed ganrif i gyfiawnhau anfon ymsefydlwyr o Brydain i sefydlu trefedigaethau yn America.[3] Defnyddiai John Dee, un o gynghorwyr Elisabeth, stori Madog fel propaganda i sefydlu Ymerodraeth ‘Brydeinig’ yng ngogledd America.[30]

Un o fforwyr a chapteiniaid môr enwocaf Elisabeth I oedd Francis Drake. Enillodd Drake enwogrwydd iddo’i hun ac i Loegr fel pŵer morwrol wedi iddo fod y cyntaf i hwylio o gwmpas y byd rhwng 1577 a 1580 ar fwrdd y Golden Hind. Roedd Elisabeth yn awyddus i gefnogi mordeithiau Drake a Walter Raleigh fel eu bod yn sefydlu trefedigaethau dramor i Loegr.[31]

Yr East India Company[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y cwmni yn ardal Môr India a Tsieina a rhoddodd Elisabeth I siarter i sefydlu’r cwmni ar 31 Rhagfyr 1600. Rhoddwyd awdurdod a rheolaeth i’r cwmni fasnachu ar ran Lloegr â gwledydd i’r Dwyrain o Benrhyn Gobaith Da ac i’r gorllewin o Gulfor Magellan am tua 15 mlynedd.

Ar ddechrau’r 17eg ganrif daeth Thomas Myddleton o Ddinbych yn Arglwydd Faer Llundain. Roedd hefyd oedd un o sylfaenwyr yr East India Company, a oedd yn un o gwmnïau cyfoethocaf y byd yn y 18fed ganrif.[3] Roedd y Cwmni yn rheoli hanner masnach y byd a thir sylweddol yn India yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.[32]

Llewyrch llenyddiaeth a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Diwylliant a Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelodd oes Elisabeth I fri mawr ar bwysigrwydd llenyddiaeth, gyda hwn yn gyfnod cynhyrchiol iawn o ran cerddoriaeth, dramâu a barddoniaeth. Hwn oedd oes aur dramodwyr fel William Shakespeare, Christopher Marlowe ac Edmund Spenser ac agoriad Theatr y Globe yn Llundain, lle perfformiwyd dramâu Shakespeare. Bu ei theyrnasiad yn gyfnod pwysig o nawdd i weithgareddau cerddorol, gyda cherddoriaeth eglwys a madrigalau yn cael eu poblogeiddio a cherddorion fel Thomas Tallis, William Byrd a Thomas Morley yn amlygu eu hunain fel cyfansoddwyr cerddoriaeth o’r safon uchaf.[33]

Y Beibl Cymraeg 1588[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Beibl 1588

Gydag Elisabeth wedi sefydlu'r grefydd Brotestannaidd yn ei theyrnas ar ôl iddi esgyn i’r orsedd ym 1559, roedd yn awyddus i sicrhau bod cymaint â phosib o gefnogaeth i’r grefydd honno drwy ei theyrnas. Er mwyn ceisio gwireddu hynny roedd hi’n bwysig bod y bobl yn deall y gwasanaethau yn eu mamiaith eu hunain, a dyna’r prif reswm pam y pasiwyd Deddf Senedd 1563. Roedd Elisabeth felly'n creu Protestaniaid ufudd na fyddai’n gwrthryfela yn erbyn ei chyfundrefn grefyddol. Roedd y Ddeddf hon yn rhoi gorchymyn i esgobion holl esgobaethau Cymru ac Esgob Henffordd drefnu bod y Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg erbyn 1 Mawrth 1567. Cyfieithwyd y rhan fwyaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin gan William Salesbury. Cyhoeddwyd cyfieithiad cyntaf y Testament Newydd yn y Gymraeg yn Llundain ym 1567, ac ym 1588 cyhoeddwyd llyfr hollbwysig yn hanes yr iaith Gymraeg, sef Beibl Cymraeg William Morgan.[34]

Blynyddoedd olaf a marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Elisabeth fel y dangosir ar ei bedd yn Abaty Westminster

Bu’r blynyddoedd ar ôl trechu’r Armada ym 1588 yn gyfnod lle wynebodd Elisabeth broblemau newydd a barhaodd tan ddiwedd ei theyrnasiad. Bu’r gwrthdaro gyda Sbaen ac yn Iwerddon yn achos cynnen gyson ar adeg pan oedd yr economi'n dioddef oherwydd cynaeafau gwael a chostau rhyfel. Cynyddodd prisiau, dirywiodd safon byw a bu cynnydd yn nifer y diwaith a'r digartref.[35]

Bu farw prif gynghorydd Elisabeth, sef William Cecil, Barwn 1af Burghley, ar 4 Awst 1598. Olynwyd ef yn ei rôl wleidyddol gan ei fab, Robert Cecil, a ddaeth yn ddiweddarach yn arweinydd y llywodraeth. Un o’r tasgau a gafodd Robert Cecil oedd sicrhau bod yr olyniaeth ar ôl marwolaeth Elisabeth yn ddidrafferth a diffwdan. Nid oedd Elisabeth am enwi pwy fyddai ei holynydd, ac felly bu'n rhaid i Cecil gynnal trafodaethau cudd gydag Iago VI o’r Alban oedd â hawl gref ar yr orsedd. Cynghorodd Cecil Iago i siarad ag Elisabeth a'i diddanu er mwyn ei pherswadio a rhoi cyfle iddi ymgyfarwyddo â’r syniad mai ef fyddai ei holynydd.

Bu iechyd Elisabeth yn weddol dda tan dymor yr hydref ym 1602, pan fu farw nifer o’i ffrindiau, ac achosodd hyn iselder ysbryd yn Elisabeth. Bu marwolaeth Catherine Carey, Iarlles Nottingham, nith i gyfnither Elisabeth, yn Chwefror 1603, yn ergyd drom i Elisabeth. Bu farw Elisabeth ar 24 Mawrth 1603 ym Mhalas Richmond, rhwng dau a thri o’r gloch y bore. Ychydig oriau'n ddiweddarach, cyhoeddwyd gan Robert Cecil a’r Cyngor mai Iago VI o’r Alban, a mab Mari, Brenhines yr Alban, fyddai'n dod yn Iago I, Brenin Lloegr.

Gyda hynny, cychwynnodd cyfnod y Stiwartiaid fel rheolwyr Teyrnas Lloegr, a barhaodd rhwng 1603 a 1714.

Cludwyd arch Elisabeth mewn bad, wedi ei oleuo gyda thorchau, i lawr yr afon yn ystod y nos tuag at Whitehall. Ar ddiwrnod ei hangladd, ar 28 Ebrill, aethpwyd â’r arch i Abaty Westminster ar elor a dynnwyd gan bedwar ceffyl wedi eu haddurno â melfed du. Claddwyd Elisabeth yn Abaty Westminster, mewn bedd a rannai gyda’i hanner-chwaer, Mari I.[36]

Gwaddol Elisabeth[golygu | golygu cod y dudalen]

I lawer o’i deiliaid, roedd hiraeth am gyfnod Elisabeth I ar yr orsedd, ond roedd eraill yn falch o weld diwedd ar ei theyrnasiad. Roedd disgwyliadau uchel o Iago pan esgynnodd i’r orsedd, ond bu dirywiad yn ei boblogrwydd, ac erbyn y 1620au roedd dyhead sentimental i adfer cwlt Elisabeth. Clodforwyd Elisabeth gan y Protestaniaid ac fel rheolwr oes euraidd, tra bod Iago yn cael ei bortreadu fel cefnogwr i’r Catholigion, a phen ar lys llygredig. Daethpwyd i ystyried teyrnasiad Elisabeth I fel cyfnod pan oedd y goron, yr eglwys a’r Senedd yn cydweithio'n gytbwys.[37]

Adferwyd ei delwedd unwaith yn rhagor adeg y Rhyfeloedd Napoleanaidd pan oedd Teyrnas Lloegr ar drothwy goresgyniad arall. Yn ystod oes Fictoria defnyddiwyd y chwedloniaeth Elisabethaidd at bwrpas imperialaidd yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yng nghanol yr 20fed ganrif roedd Elisabeth yn cael ei gweld fel symbol rhamantus o wrthsafiad cenedlaethol pan wynebai’r deyrnas fygythiad o dramor. Mae haneswyr sy'n arbenigo ar y cyfnod, fel J.E. Neale (1934) ac A.L. Rowse (1950), yn dehongli teyrnasiad Elisabeth fel oes euraidd o gynnydd. Mae'r ddau yn delfrydu personoliaeth Elisabeth, gan ei phortreadu fel rhywun oedd wastad yn gywir ac yn ddoeth, tra bod nodweddion mwy annifyr ei phersonoliaeth yn cael eu hanwybyddu ac yn cael eu hesbonio fel arwyddion o straen.[38]

Er hynny, mae haneswyr mwy diweddar wedi mabwysiadu barn fwy cymhleth a chywir ohoni. Mae ei theyrnasiad yn enwog am iddi drechu’r Armada ac am gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn y Sbaenwyr, fel y rhai ar Cadiz ym 1587 a 1596, ond mae rhai haneswyr yn cyfeirio hefyd at ei methiannau ar y tir a’r môr. Roedd y tactegau a ddefnyddiwyd yn Iwerddon wedi dwyn anfri ar ei henw. Ni welwyd hi ychwaith fel amddiffynnydd cadarn y gwledydd Protestannaidd rhag Sbaen a’r Habsbwrgiaid, oherwydd roedd ei pholisi tramor yn bwyllog ac yn ofalus iawn. Ychydig iawn o gymorth a gynigiodd i Brotestaniaid dramor a methodd ddarparu digon o arian i'w harweinyddion i wneud unrhyw wahaniaeth mawr dramor.

Ond er bod ei pholisi tramor yn ofalus, llwyddodd yn ystod ei theyrnasiad i godi proffil Lloegr dramor. Yn ystod Oes Elisabeth, cynyddodd hunanhyder ei theyrnas, ac roedd gwledydd fel Ffrainc a Sbaen yn dangos math o barchedig ofn tuag ati.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Elizabeth : the exhibition at the National Maritime Museum. Starkey, David., Doran, Susan., National Maritime Museum (U.S.). London: Chatto & Windus in association with the National Maritime Museum. 2003. t. 5. ISBN 0-7011-7476-5. OCLC 51622794.CS1 maint: others (link)
  2. "CECIL (TEULU), Alltyrynys (Swydd Henffordd), Burghley (swydd Northampton), a Hatfield (swydd Hertford). | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-30.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Patrymau mudo, y cyd-destyn Cymreig" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 29 Medi 2020.
  4. Stanley, Earl of Derby, Edward (1890). Correspondence of Edward, Third Earl of Derby, During the Years 24 to 31 Henry VIII.: Preserved in a Ms. in the Possession of Miss Pfarington, of Worden Hall, Volume 19. Chetham Society. p. 89.
  5. Somerset, Anne, 1955-. Elizabeth I. New York. t. 89. ISBN 0-394-54435-8. OCLC 24430389.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. Loades, D. M. (2006). Elizabeth I. London: Hambledon Continuum. tt. 24–25. ISBN 1-85285-520-7. OCLC 74114287.
  7. Loades, D. M. (2006). Elizabeth I. London: Hambledon Continuum. t. 27. ISBN 1-85285-520-7. OCLC 74114287.
  8. Neale, J. E (1954). Queen Elizabeth I. (yn Saesneg). London: J. Cape. t. 45. OCLC 220518.
  9. Neale, J. E (1954). Queen Elizabeth I. London: J. Cape. t. 43. OCLC 220518.
  10. "John Dee and the English Calendar - seminar paper". web.archive.org. 2007-09-30. Cyrchwyd 2020-09-30.
  11. Neale, John Ernest, Sir, 1890-1975. (1998). Queen Elizabeth I. Llundain: Pimlico. t. 50. ISBN 0-7126-6611-7. OCLC 43054757.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  12. Retha Warnicke, "Why Elizabeth I Never Married," History Review, Medi 2010,
  13. Loades, D. M. (2006). Elizabeth I. London: Hambledon Continuum. t. 54. ISBN 1-85285-520-7. OCLC 74114287.
  14. Haigh, Christopher. (1998). Elizabeth I (arg. 2nd ed). London: Longman. tt. 22–23. ISBN 0-582-31974-9. OCLC 39093637.CS1 maint: extra text (link)
  15. 15.0 15.1 Lee, Christopher. (1998), This Sceptred Isle CD4 : 1547-1660 : Elizabeth 1 to Cromwell., BBC Worldwide, ISBN 0-563-55769-9, OCLC 656142782, https://www.worldcat.org/oclc/656142782, adalwyd 2020-09-30
  16. "Wars of Religion | French history". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  17. 17.0 17.1 "The impact of religious change in the 16th century - Causes of crime – WJEC - GCSE History Revision - WJEC". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  18. "The impact of religious change in the 16th century - Causes of crime – WJEC - GCSE History Revision - WJEC". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  19. Davies, John. (2007). Hanes cymru. [Place of publication not identified]: Penguin Books Ltd. tt. 231–232. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  20. Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 115. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
  21. "Sir Francis Walsingham | English statesman". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  22. Loades, D. M. (2006). Elizabeth I. London: Hambledon Continuum. t. 61. ISBN 1-85285-520-7. OCLC 74114287.
  23. "Elizabeth I (1533–1603), queen of England and Ireland". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  24. Black, J. B (1945). The reign of Elizabeth, 1558-1603 (yn Saesneg). Oxford: Clarendon Press. t. 349. OCLC 5077207.
  25. Neale, John Ernest, Sir, 1890-1975. (1998). Queen Elizabeth I. London: Pimlico. tt. 297–298. ISBN 0-7126-6611-7. OCLC 43054757.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  26. Black, J. B (1945). The reign of Elizabeth, 1558-1603 (yn English). Oxford: Clarendon Press. t. 359. OCLC 5077207.CS1 maint: unrecognized language (link)
  27. "BBC - History - Turning Ireland English". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  28. Loades, D. M. (2006). Elizabeth I. London: Hambledon Continuum. t. 55. ISBN 1-85285-520-7. OCLC 74114287.
  29. Loades, D. M. (2006). Elizabeth I. London: Hambledon Continuum. tt. 98–99. ISBN 1-85285-520-7. OCLC 74114287.
  30. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 593. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  31. "Sir Walter Raleigh | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  32. Foster, William. (1998). England's quest of eastern trade. Tuck, Patrick J. N. London [u.a.]: Routledge. tt. 155–157. ISBN 0-415-15518-5. OCLC 246371260.
  33. "William Byrd | English composer". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  34. "Testament Newydd 1567 William Salesbury". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2017-10-03. Cyrchwyd 2020-09-30.
  35. Black, J. B (1945). The reign of Elizabeth, 1558-1603 (yn English). Oxford: Clarendon Press. tt. 355–356. OCLC 5077207.CS1 maint: unrecognized language (link)
  36. Stanley, Arthur Penrhyn (1868). Historical Memorials Of Westminster Abbey.
  37. Elizabeth : the exhibition at the National Maritime Museum. Starkey, David., Doran, Susan., National Maritime Museum (U.S.). London: Chatto & Windus in association with the National Maritime Museum. 2003. ISBN 0-7011-7476-5. OCLC 51622794.CS1 maint: others (link)
  38. Kenyon, J. P. (1983). The history men. London: Weidenfeld and Nicolson. t. 207. ISBN 0-297-78254-1. OCLC 654994376.
Rhagflaenydd:
Mari I
Brenhines Lloegr
17 Tachwedd 155824 Mawrth 1603
Olynydd:
Iago VI & I