Tuduriaid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae enw'r Tuduriaid yn cyfeirio at deulu o swyddogion, tirfeddianwyr a brenhinoedd. Sylfaenydd y teulu oedd Ednyfed Fychan, distain Llywelyn ap Iorwerth. Gellir rhannu'r teulu'n ddwy ran, a dyma yw'r arferiad ledled y byd, bellach: y teulu yng Nghymru, gan gynnwys Teulu Penmynydd a'r Tuduriaid yn Lloegr, fel brenhinoedd a breninesau ar Deyrnas Lloegr - o Harri VII, brenin Lloegr neu Harri Tudur (1485-1509) hyd at Elisabeth I, brenhines Lloegr (1558-1603), merch Harri VIII. Y Tuduriaid oedd yr unig deulu o dras Gymreig i gipio gorsedd Lloegr. Gelwir y teulu wedi iddynt symud i Loegr, yn Saesneg yn The House of Tudors neu The Tudor Dynasty.

Y Tuduriaid Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffenestr liw teulu'r Tuduriaid yn Eglwys Penmynydd
Searchtool.svg
Prif erthygl: Tuduriaid Penmynydd

Yn dilyn cwymp y Tywysog Llywelyn II, derbyniodd dau fab Ednyfed Fychan (Goronwy a Tudur) y drefn newydd, i ryw raddau, gan hyrwyddo ar bob achlysur y Dywysogaeth Gymreig. Roedd disgynyddion Goronwy, y brif linach, yn gyfrifol am sefydlu llinach Tuduriaid Penmynydd, Ynys Môn, a disgynyddion Tudur yn gyfrifol am linach teulu Griffiths, Penrhyn.[1]

Ymhlith disgynyddion Goronwy roedd dau frawd: Gwilym ap Tudur a Rhys ap Tudur Fychan, meibion Tudur Fychan, ill dau yn gefnogwyr pybyr (ac yn gefndryd) i'r Tywysog Owain Glyn Dŵr. Dienyddiwyd Rhys yn 1412 a chipiwyd y rhan fwyaf o dir y teulu gan Goron Lloegr.

Isgangen arall o'r teulu, a disgynyddion Gruffudd ab Ednyfed Fychan oedd y milwr Gruffudd Llwyd ap Rhys (m. 1335) a Syr Rhys ap Gruffudd ('Yr Arglwydd Rhys'; m. 1356).

Disgynydd arall oedd Maredydd, un o feibion Tudur ap Goronwy, sef cyndaid y llinach frenhinol Seisnig. Penderfynodd ei fab Owain ddefnyddio enw parhaol ('cyfenw' heddiw), sef 'Tudur'. Pe bai wedi defnyddio enw'i dad, yna byddai llinach brenhinol Lloegr wedi'i enwi'n 'Maredydd' yn hytrach nag enw'r teulu 'Tudur' e.e. byddai Harri Tudur wedi cael ei alw'n 'Harri Meredydd' (Henry Meredith, efallai, yn Saesneg). Ond enw ei daid a ddefnyddiodd ac nid enw'i dad. Priododd Owain Catrin o Valois (Katherine yn ôl y Bywgraffiadur Cymreig), merch Siarl VI, brenin Ffrainc a gweddw Harri V, brenin Lloegr.

Y Tuduriaid yn Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

Arfbais Harri
Searchtool.svg
Prif erthygl: Y Tuduriaid yn Lloegr

Roedd priodas Owain Tudur gyda Chatrin o Valois yn ysgytwad i'r drefn Seisnig ac yn gam mentrus iawn i Catrin ei gymryd, gan mai un o fân swyddogion y brenin oedd Owain. Dienyddiwyd ef gan yr Iorciaid yn Henffordd ar orchymyn Edward IV wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd yn erbyn yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461. Urddwyd ei fab Edmwnd (c. 1430 - 56), fodd bynnag, yn iarll Richmond a phriododd gydag etifeddes teulu Lancaster, sef Margaret Beaufort.

Deufis wedi marwoaeth Edmwnd ganwyd Harri Tudur yng Nghastell Penfro, ac fe'i bedyddiwyd, yn ôl rhai o Gymry Penfro, hefyd yn 'Owain', cyn i'w fam newid yr enw yn 'Harri'. Treuliodd ddeuddeg mlynedd cyntaf ei fywyd yno ym Mhenfro, ac wedi cyfnod yn alltud yn Llydaw glaniodd ym Mhont y Pistyll, Sir Benfro i hawlio coron Lloegr. Lladdwyd Richard II, brenin Lloegr ym Mrwydr Maes Bosworth ar 22 Awst, 1485. Yn llygad y Cymro, roedd y frwydr hon yn fuddugoliaeth Gymreig, a phroffwydoliaeth y beirdd wedi'i gwireddu.

Yn rhyfeddol, ni ddaeth yr un o frenhinoedd y Tuduriaid (a fu ar orsedd Lloegr am bron in ganrif) i ymweld â Chymru - er bod pob brenin arall wedi gwneud hynny ers 1066.[2]

Wedi teyrnasiad Harri VII (1485-1509), bu'r canlynol, a ystyrir eu bod o linach y Turduriaid, yn frenhinoedd: Harri VIII, brenin Lloegr (1509-1547), mab Harri VII, Edward VI, brenin Lloegr (1547-1553), mab Harri VIII, Mari I, brenhines Lloegr neu Mari Tudur (1553-1558), merch Harri VIII ac Elisabeth I, brenhines Lloegr (1558-1603), merch Harri VIII.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008; tud 393 a 921.
  2. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008; tud 92.