Castell Penfro
![]() | |
Math |
castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Penfro ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.676805°N 4.920737°W ![]() |
Manylion | |
Perchnogaeth |
Roger o Drefaldwyn, John Hastings, 2nd Earl of Pembroke, William Marshal, William Marshal, Richard Marshal, 3ydd iarll Pembroke, Walter Marshal, 5ed iarll Penfro, Gilbert Marshal, 4ydd iarll Penfro, William de Valence, Iarll Penfro 1af, John Hastings, 3rd Earl of Pembroke, Ivor Philipps ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Sylfaenwyd gan |
Roger o Drefaldwyn ![]() |
Castell ar lan yr afon yng nghanol tref Penfro, Sir Benfro, yw Castell Penfro. Cychwynwyd ar y gwaith o'i godi ym 1093 gan Roger o Drefaldwyn yn gastell pren, fel rhan o ymdrech y Normaniaid i oresgyn Cymru. Ceir ogof o dan y castell a gafodd ei defnyddio fel storfa. Dywedir fod pobl wedi darganfod darnau arian Rhufeinig ynddo. Ni chipiwyd y castell gan y Cymry er gwaethaf sawl ymosodiad.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
O Gastell Penfro y lansiodd y Normaniaid eu hymdrech i oresgyn Iwerddon.
Ym 1138 cafodd Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro'r castell. Ar ôl hynny roedd Siasbar Tudur yn ei feddianu. Ym 1456 ganwyd Harri Tudur yn y castell, a fyddai'n ddiweddarach yn frenin Lloegr a sefydlydd llinach frenhinol y Tuduriaid. Ei fam oedd Margaret Beaufort, chwaer-yng-nghyfraith i weddw Siaspar Tudur.
Yn ystod Ail Ryfel Cartref Lloegr cafodd y castell ei warchae a'i ddifrodi, ond chafodd o ddim ei gipio mewn brwydr.
Cadwraeth a mynediad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r castell ar rhestr Cadw ac yn ei ofal.