Ail Ryfel Cartref Lloegr
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel ![]() |
Dyddiad | Chwefror 1648 ![]() |
Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr ![]() |
Lleoliad | Lloegr ![]() |
![]() |
Ymladdwyd Ail Ryfel Cartref Lloegr yn 1648 a 1649, rhwng plaid y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban a phlaid y Senedd. Roedd yn rhan o gyfres o dri rhyfel o fewn Rhyfel Cartref Lloegr, yntau yn rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas, yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9).
Dechreuodd y rhyfel yma yng Nghymru yng ngwanwyn 1648, pan newidiodd milwyr y Senedd, oedd heb gael eu talu, eu teyrngarwch. Dan arweiniad y Cyrnol John Poyer, llywodraethwr Castell Penfro, ynghyd a'i bennaeth, y Cadlywydd Rowland Laugharne a Cyrnol Rice Powel, datganasant eu cefnogaeth i'r brenin.
Gorchfygwyd hwy gan y Cyrnol Thomas Horton ym Mrwydr San Ffagan (8 Mai), ac ildiodd yr arweinwyr i Oliver Cromwell ar 11 Gorffennaf ar ôl gwarchae Penfro. Dienyddiwyd Siarl I ar 30 Ionawr 1649.