William Marshal, 2il Iarll Penfro
Gwedd
| William Marshal, 2il Iarll Penfro | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | c. 1190 Dugiaeth Normandi |
| Bu farw | 6 Ebrill 1231 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Galwedigaeth | person milwrol |
| Swydd | Arglwydd Raglaw yr Iwerddon |
| Tad | William Marshal, Iarll 1af Penfro |
| Mam | Isabel de Clare |
| Priod | Elinor, iarlles Caerlŷr, Alice de Béthune |
| Plant | Isabel ferch William Marshal |
| Llinach | Marshal family |
Uchelwr yn y Canol Oesoedd a mab yr enwog William Marshal, Iarll 1af Penfro oedd William Marshal, 2il Iarll Penfro (Ffrangeg:Guillaume) (1190 – 6 Ebrill 1231).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]
Yng ngwanwyn 1190, yn Normandi, Ffrainc y ganwyd William (neu Guillaume). Fe'i rhoddwyd yn wystl i John, brenin Lloegr rhwng 1205 a 1212 er mwyn sicrhau y byddai ei dad (hefyd William Marshal) yn bihafio gan fod gan hwnnw gysylltiad â Philippe II, brenin Ffrainc.
Priododd ag Alice de Bethune, merch Baldwin de Bethune a oedd yn ffrind agos i'w dad, ym mis Medi 1214 ond bu farw hithau cyn diwedd 1215. Yn 1224 priododd Eleanor, merch ieuengaf brenin John o Loegr a chwaer Siwan, gwraig Llywelyn Fawr.
