Siasbar Tudur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Siasbar Tudur
Jasper Tudor

Arfau Siasbar Tudur
Ganwyd Tachwedd 1429
Hatfield, Swydd Hertford
Bu farw 21 Rhagfyr 1495
Castell Thornbury, Swydd Gaerloyw
Teitl Iarll Penfro
Dug Bedford
Priod Catherine Woodville

Uchelwr Cymreig oedd Siasbar Tudur (tua 14311495); roedd yn Iarll Penfro a Dug Bedford ac yn ewythr i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Gyda'i frawd hŷn Edmwnd Tudur (tua 14301456), tad Harri Tudur, yr oedd Siasbar yn un o bum plentyn Owain Tudur ac yn ddisgynydd uniongyrchol i Ednyfed Fychan (m. 1246), distain (canghellor) pwerus Llywelyn Fawr. I bob pwrpas Siasbar oedd yn rheoli de-orllewin Cymru o'i gadarnle yng Nghastell Penfro. Bu gan Siasbar ran bwysig iawn yn Rhyfeloedd y Rhosynnau fel prif gynrychiolydd y Lancastriaid yng Nghymru ac yn ymgyrchoedd ei nai, a wnaed yn ward iddo, i ennill coron Lloegr.

Erbyn 1460 roedd Siasbar mewn sefyllfa mor gryf nid yn unig yn y de-orllewin ond mewn rhannau eraill o'r wlad trwy'r swyddi niferus yr oedd wedi ennill i'w hun fel ei fod bron iawn yn rheoli'r wlad.

Ar ôl i'r Iorciaid drechu'r Lancastriaid ym Mrwydr Croes Mortimer (1461), bu Siasbar yn alltud, yn yr Alban a Ffrainc, ond yn dilyn Brwydr Tewkesbury ym Mai 1471 dihangodd gyda Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Buont yn Llydaw rhwng 1471 a 1484 cyn i'r ddau ddychwelyd i Benfro gyda milwyr arfog a chychwyn ar eu gorymdaith drwy Gymru a arweiniodd i Frwydr Maes Bosworth.

Siasbar a'r beirdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel y rhan fwyaf o uchelwyr eraill Cymru, noddai Siasbar y beirdd. Un o'r beirdd pwysicaf i ganu iddo oedd Lewys Glyn Cothi. Roedd Lewys yn Lancastriad brwd a gwladgarwr Cymreig pybyr. Dywed mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi mynd "ar herw er mwyn arglwydd Penfro," ar ôl i'r Iorciaid ennill brwydr Croes Mortimer.[1] Canodd awdl frud iddo a'i nai yn y gobaith y byddent yn dychwelyd yn fuan i adfer y Brythoniaid a gyrru'r Saeson yn ôl i'r môr:

a'r gwragedd Seisnig i'r dŵr meddal,
a'r Saesnes ormes i dref Gingsal,
a'r Saesneg wangreg i wâl - yr eigion,
a'r Saeson duon, ddimyn ys tâl.[2]

Canodd sawl bardd arall i Siasbar hefyd, gan gynnwys Dafydd Nanmor.

Gwraig a phlant[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig dros ddeufis wedi Brwydr Maes Bosworth, ar 7 Tachwedd 1485, priododd Catherine Woodville (c. 1458–1509), merch Richard Woodville, Iarll 1af Rivers a Jacquetta o Lwcsembwrg. Roedd hi'n chwaer i wraig Edward IV, Elizabeth Woodville a gweddw Henry Stafford, ail ddug Buckingham.

Plant anghyfreithlon
  • Helen Tudor (gan Myfanwy ferch N) (ganwyd Wales c. 1459, m. 1485), gwraig William Gardiner, o Lundain (ganwyd c. 1450).
  • Siwan Tudur (neu Joan Tudor), gwraig Wiliam ap Ieuan (mab Ieuan William a Margaret Kemoys), ac o bosibl, mam Morgan ap William (ganwyd Llanishen, Morgannwg, 1479), a briododd yn Eglwys Putney, Norwell, Swydd Nottingham, yn 1499 gyda Catherin neu Katherine Cromwell, ganwyd yn Putney, Llundain, c. 1483, chwaer hynaf Thomas Cromwell, Iarll cyntaf Essex. Roeddent yn perthyn (drwy bedair cenhedlaeth) i Oliver Cromwell.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
  • David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), t. xxv.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), tud. 39.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
Creadigaeth newydd
Dug Bedford
14851495
Olynydd:
Diflanedig
Rhagflaenydd:
Creadigaeth newydd
Iarll Penfro
14521461
14851495
Olynydd:
Diflanedig