Neidio i'r cynnwys

Beibl 1588

Oddi ar Wicipedia
Beibl 1588
Enghraifft o:fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1588 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dalen gynta Beibl 1588.

Beibl 1588 oedd y fersiwn llawn cyntaf o'r Beibl i ymddangos yn Gymraeg. Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604), ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ar y pryd, oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith. Credir yn gyffredinol mai cyhoeddi'r Beibl hwn yn gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi.

Stamp answyddogol yn dathlu pedwerydd ganmlwyddiant Testament Newydd 1567 (1567-1967)

Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Ar ddechrau'r gwaith daeth Morgan â chyfieithiadau blaenorol o rannau o'r Beibl at ei gilydd. Erbyn 1587 roedd wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocryffa, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg yn 1588 yn Llunadain: gwaith a gymerodd sawl wythnos i'w gyflawni. Arolygodd y gwaith hwn, gan aros gyda'i hen gyfaill yn neoniaeth Abaty Westminster a oedd yn gartref i Gabriel Goodman, Deon Westminster.

Benthyciwyd copi sydd wedi cael ei gadw yng nghasgliad llyfrgell Abaty Westminster i Gadeirlan Tyddewi ym Mehefin a Gorffennaf 2025. Roedd y copi hwn wedi ei roi'n anrheg i Lyfrgell Goodman yn Abaty Westminster, gyda nodyn mewn arysgrif Lladin yn datgan hynny ar y tu fewn. Mae'r copi hwn ymhlith y gorau, gan nad oedd yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol fel yr oedd y copiau mewn eglwysi yng Nghymru.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
  • Prys Morgan, Beibl i Gymru (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988) - copi digidol

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  1. [https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/cy757ny8m61o?at_link_id=CC066A24-4A71-11F0-915A-F0F1A4B0A474&at_campaign_type=owned&at_link_origin=BBCCymruFyw&at_campaign=Social_Flow&at_bbc_team=editorial&at_medium=social&at_ptr_name=twitter&at_format=link&at_link_type=web_link bbc.co.uk; Teitl: Beibl Cymraeg prin o 1588 yn dod i Gymru am y tro cyntaf; dienw; adalwyd 16 Mehefin 2025.