Marged Tudur

Oddi ar Wicipedia
Marged Tudur
Ganwyd28 Tachwedd 1489, 1489 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1541, 1541 Edit this on Wikidata
Castell Methven Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddrhaglyw Edit this on Wikidata
TadHarri VII Edit this on Wikidata
MamElisabeth o Efrog Edit this on Wikidata
PriodIago IV, brenin yr Alban, Archibald Douglas, 6th Earl of Angus, Henry Stewart, 1st Lord Methven Edit this on Wikidata
PlantJames, Duke of Rothesay, Arthur Stewart, Duke of Rothesay, Iago V, brenin yr Alban, Alexander Stewart, Duke of Ross, Margaret Douglas, James, Duke of Rothesay, unnamed daughter Stewart, unnamed son Stewart, Dorothea Stewart Edit this on Wikidata
Llinachtuduriaid Edit this on Wikidata

Merch Harri VII, brenin Lloegr, a chwaer Harri VIII oedd Margaret Tudur neu Marged Tudur (28 Tachwedd 148918 Hydref 1541) a oedd yn Frenhines yr Alban rhwng 1503 ac 1513. Fe'i ganwyd ym Mhalas San Steffan yn ferch hynaf i Harri ac Elisabeth o Efrog.

Tra roedd yn fam i'r frenhines, priododd Archibald Douglas, 6ed iarll Angus. Iago IV, brenin yr Alban, ar 8 Awst 1503 a hithau'n 14 mlwydd oed a bu ar yr orsedd rhwng 1503 - 1513.

Roedd yn famgu i Mari I, brenhines yr Alban drwy ei phriodas gynaf.

Hanes[golygu | golygu cod]

Fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Santes Marged, ar dir Abaty Westminster, Llundain gan ei henwi'r 'Farged' ar ôl Margaret Beaufort, iarlles Richmond a Derby, ei nain ar ochr ei thad.[1]

Yr adeg honno, defnyddiwyd merched y brenin fel asedau diplomataidd a gwleidyddol, gyda phriodas yn serio cyfeillgarwch rhwng dwy wlad. Cyn ei bod yn chwech oed roedd ei thad yn ystyried ei phriodi â Iago IV er mwyn tawelu'r dyfroedd Albanaidd ac i wahanu cyfeillgarwch Perkin Warbeck â Brenin yr Alban. Gwerin gwyddbwyll politicaidd oedd Marged felly ac mae'n gwbwl bosib fod tad Marged yn ei gweld fel modd i uno'r ddwy genedl: yr Alban a Lloegr; methodd a gwneud hyn, ond gafaelodd ei fab Harri VIII yn yr awennau hyn eilwaith, flynyddoedd yn ddiweddarach, gyda'r un nod.

Plant Marged ac Iago[golygu | golygu cod]

Bu farw Iago ym Mrwydr Flodden yn 1513. Priododd Marged Archibald Douglas, 6ed Iarll Angus, yn 1514.

Plant Marged a Douglas[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Marshall, Rosalind Kay (2003). Scottish Queens, 1034-1714. Tuckwell. ISBN 978-1-86232-271-4.