Palas San Steffan
Gwedd
| Math | senedd-dy |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
| Agoriad swyddogol | 1342 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Palas San Steffan ac Abaty Westminster gan gynnwys Eglwys Santes Marged, Westminster |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10 ha |
| Gerllaw | Afon Tafwys |
| Cyfesurynnau | 51.4994°N 0.1242°W |
| Cod OS | TQ3026779504 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig, Gothig Sythlin, yr Adfywiad Gothig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Manylion | |
Adeilad yn Llundain sy'n gartref i Senedd y Deyrnas Unedig yw Palas San Steffan. Mae'r senedd honno yn cynnwys dwy siambr – Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin: yma mae'r ddau yn cwrdd. Mae'r palas wedi'i leoli ar lan Afon Tafwys yn ardal Westminster yn Llundain. A. W. N. Pugin a Syr Charles Barry oedd penseiri yr adeilad Fictoraidd. Mae'r adeilad yn agos i swyddfeydd pwysig y llywodraeth yn Whitehall hefyd.
Ynghyd ag Abaty Westminster ac Eglwys Santes Marged, Westminster, sy'n sefyll ar yr un safle o arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd, mae'r Palas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1987.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Palace of Westminster and Westminster Abbey including Saint Margaret's Church". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
