Abaty Westminster

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Abaty Westminster
Westminster Abbey west front.jpg
Math cadeirlan Anglicanaidd, Royal Peculiar, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10G Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Palace of Westminster and Westminster Abbey including Saint Margaret's Church Edit this on Wikidata
Sir Dinas Westminster Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.4994°N 0.127367°W Edit this on Wikidata
Manylion
Arddull pensaernïol Pensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwad Anglicaniaeth Edit this on Wikidata
Esgobaeth Diocese of Westminster Edit this on Wikidata

Eglwys fawr gyda phensaernïaeth Gothig ydy Eglwys Golegol San Pedr yn Westminster, sy'n fwy adnabyddus o dan yr enw Abaty Westminster (Westminster Abbey). Fe'i lleolir yn Westminster, Llundain, ychydig i'r gorllewin o Balas San Steffan. Dyma safle traddodiadol coroni a chladdu brenhinoedd Lloegr.

Cychwynnwyd ar y gwaith o godi'r Abaty presennol ym 1245 gan Harri III, brenin Lloegr a ddewisodd y safle gyda golwg ar fan i'w gladdu wedi ei farwolaeth.[1]

Ymhlith y rhai a gladdwyd neu a goffawyd yno y mae: Syr Winston Churchill, Oliver Cromwell, Charles Darwin, Charles Dickens, Benjamin Disraeli, Gabriel Goodman (o Ruthun), Georg Friedrich Händel, David Livingstone a William Shakespeare.

Ynghyd â Palas San Steffan ac Eglwys Santes Marged, Westminster, sy'n sefyll ar yr un safle o arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd ger Afon Tafwys, mae'r Abaty ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1987.[2]

Seintwar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1482, wedi i Richard III, brenin Lloegr gipio coron Lloegr oddi wrth Edward V a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, Elizabeth Woodville am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch Elisabeth o Efrog ac eraill o'i theulu, yn Abaty Westminster. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda Harri Tudur yn Llydaw, ac yn awyddus i'w cloi yn Nhŵr Llundain. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i mewn nag allan. Roedd mam Harri Tudur, Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd y Lancastriad pybyr Lewis o Gaerleon, a heriodd farwolaeth sawl tro yn cludo negeseuon o'r naill at y llall, gan gyd-drefnu priodas Harri ac Elisabeth o Efrog. Mae'n debyg mai dyma pam y gwobrwywyd ef yn ariannol, wedi i Harri ladd Richard ym Mrwydr Bosworth.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Saesneg yr Abaty
  2. "Palace of Westminster and Westminster Abbey including Saint Margaret's Church". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
Clock Tower - Palace of Westminster, London - September 2006-2.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.