Steffan (sant)
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Sant Steffan)
- Erthygl am y sant yw hon. Gweler hefyd Senedd y Deyrnas Unedig neu "San Steffan"
Steffan | |
---|---|
Darlun o Sant Steffan yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | c. 1 Gwlad Groeg |
Bu farw | c. 36 o llabyddiad Jeriwsalem |
Galwedigaeth | diacon |
Dydd gŵyl | 26 Rhagfyr, 27 Rhagfyr |
Steffan (o'r Groeg Στέφανος, Stephanos, yn golygu "coron") oedd y merthyr Cristnogol cyntaf, a fu farw tua 36 OC. Dethlir Gŵyl San Steffan ar y 26eg o Ragfyr.
Adroddir ei hanes yn Actau yr Apostolion. Un o'r saith dyn a cafodd eu penodi'n ddiaconiaid gan yr Apostolion oedd Steffan. Cafodd ei feirniadau gan y Sanhedrin yn euog o gabledd yn erbyn Moses a Duw, ac fe'i arweiniwyd tu allan i furiau'r ddinas i gael ei labyddio (lladd gyda cherrig). Ymhlith y rheiny a wyliodd y dienyddiad oedd Saul, yn hwyrach yr Apostol Paul. Yn ôl traddodiad mae ei greiriau yn eglwys San Lorenzo fuori le Mura yn Rhufain, lle y mae'n rhannu bedd gyda'r diacon Lawrens.
|