David Livingstone

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Livingstone
David Livingstone.jpg
Ganwyd 19 Mawrth 1813 Edit this on Wikidata
Blantyre, De Swydd Lanark Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Mai 1873 Edit this on Wikidata (60 oed)
Achos: Malaria, Dysentri Edit this on Wikidata
Livingstone Memorial Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth fforiwr, meddyg, cenhadwr Edit this on Wikidata
Priod Mary Livingstone Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal y Sefydlydd, Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol, Grande Médaille d'Or des Explorations Edit this on Wikidata

Cenhadwr a fforiwr Albanaidd oedd David Livingstone (19 Mawrth 18131 Mai 1873).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yn Blantyre, Swydd Lanark, yn fab i Neil Livingstone (1788-1856) a'i wraig Agnes (1782-1865). Dechreuodd David weithio yn y felin gotwm leol. Yn 1836 aeth i Brifysgol Anderson, Glasgow, i astudio, ac yn fuan wedyn, derbyniwyd ei gais i ymuno a Chymdeithas Genhadol Llundain. Aeth i Lundain i astudio i fod yn feddyg. Yno cyfarfu a Robert Moffat, cenhadwr ar wyliao o Kuruman, De Affrica. Yn 1841, aeth Livingstone i Kuriman, yna yn 1844 symudodd i'r gogledd i ddechrau cenhadaeth yn Mabotswa. Yma, bu bron iddo gael ei ladd gan lew, a'i anafodd yn ddifrifol.

Yn 1845, priododd Mary, merch Robert Moffat. Ganed eu merch, Agmes, yn 1847. Rhwng 1852 a 1856, bu'n fforio tua'r gogledd, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i weld rhaeadr Mosi-oa-Tunya, a enwyd yn Rhaeadr Victoria ganddo. Roedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i deithio ar draws Affrica, o Luanda i Quelimane.

O 1858 hyd 1864 bu'n arwain ymgyrch i fforio afon Zambezi. Dychwelodd i Affrica yn 1866, i Sansibar, i ddechrau ymgyrch i chwilio am darddle afon Nîl. Ef oedd yr Ewropead cyntaf, mae'n debyg, i weld Llyn Malawi. Gwnaeth lawer i geisio dileu y fasnach mewn caethweision yn nwyrain Affrica. Gan nad oedd newyddion amdano wedi cyrraedd Sansibar, yn 1869 gyrrwyd Henry Morton Stanley gan y New York Herald i chwilio amdano. Cafodd Stanley hyd iddo ar lan Llyn Tanganyika ar 10 Tachwedd 1871. Roedd Livingstone eisoes yn wael, a bu farw yn Ilala, yn awr yn Sambia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]