Cymdeithas Genhadol Llundain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bechuana Congregation (relates to David Livingstone) by The London Missionary Society.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolChristian missionary society Edit this on Wikidata
Daeth i ben1966 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1795 Edit this on Wikidata
OlynyddCouncil for World Mission Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Cymdeithas Genhadol Llundain yn gymdeithas genhadol a sefydlwyd yn 1795 gan Eglwyswyr Anglicanaidd ac Anghydffurfwyr o wahanol enwadau. Mae bellach yn rhan o Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang (Council for World Mission neu 'CWM').

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1793, ysgrifennodd Edward Williams, a oedd yn weinidog yn Carr's Lane, Birmingham, lythyr at eglwysi canolbarth Lloegr yn mynegi'r angen i efengylu a chenhadu mewn rhannau eraill o'r byd. Bu'n effeithiol a cymerodd Williams ran flaenllaw yn y cynlluniau i sefydlu cymdeithas genhadol. Symudodd i Masbrough, Rotherham, yn 1795 i fod yn weinidog a thiwtor ar academi newydd Masbrough. Hefyd yn 1793, sefydlodd y clerigwr Anglicanaidd John Eyre yr Evangelical Magazine gyda chefnogaeth y Presbyteriad John Love a'r cynulledifaolwyr Edward Parsons a John Townshend.

Cynigiwyd sefydlu'r Gymdeithas Genhadol yn 1794 wedi i weinidog gyda'r Bedyddwyr, John Ryland, dderbyn gair gan William Carey, y cenhadwr o Fedyddiwr a oedd wedi ymfudo i Calcutta, ynghylch yr angen i ledaenu Cristnogaeth. Awgrymodd Carey bod Ryland yn cydweithio gydag unigolion o enwadau eraill yn yr un modd ag yr oedd y Gymdeithas Wrth-gaethwasiaeth wedi gweithio er mwyn goresgyn yr anawsterau a wynebwyd wrth geisio sefydlu meysydd cenhadol mewn gwledydd eraill. Bu enwadaeth yn rhwystr i godi arian i sefydlu cenhadaeth gynaliadwy, er enghraifft.

Ceisiai'r Gymdeithas greu fforwm ble gallai efengylwyr o wahanol enwadau weithio gyda'i gilydd a rhoi cefnogaeth ariannol i genhadaeth dramor. Roedd hefyd yn wrthwynebus i'r rhai a oedd eisiau ymdrin a phobl frodorol heb unrhyw gyfyngiadau masnachol neu filwrol.

Yn 1795, gofynnwyd i Spa Fields Chapel am ganiatad i gynnal oedfa bregethu yno i weinidogion ac eraill a oedd yn gefnogol i'r bwriad o anfon cenhadon tramor. Daeth cannoedd yno ar 22 Medi i sefydlu'r Gymdeithas Genhadol a buan y dechreuodd dderbyn llythyrau yn rhoi cefnogaeth ariannol neu gyflwyno ymgeiswyr ar gyfer y gwaith cenhadol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

E. Lewis Evans, Cymru a'r Gymdeithas Genhadol (Cymdeithas Genhadol Llundain, 1945)