Sansibar
| Math | talaith, endid tiriogaethol gweinyddol |
|---|---|
| Prifddinas | Sansibar |
| Poblogaeth | 1,503,569 |
| Sefydlwyd | • Swltaniaeth Zanzibar - 19 Hydref 1856 • Chwyldro Zanzibar - 12 Ionawr 1964 |
| Anthem | Mungu ibariki Afrika |
| Pennaeth llywodraeth | Ali Mohamed Shein |
| Cylchfa amser | Amser Dwyrain Affrica |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Swahili |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,461 km² |
| Cyfesurynnau | 5.9°S 39.3°E |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ali Mohamed Shein |
![]() | |
| Arian | rupee Dwyrain Affrica |
Ynys yng Nghefnfor India oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica yw Sansibar[1] neu Unguja. Yn wleidyddol, mae'n rhan o Dansanïa. Gerllaw, mae ynys lai Pemba, a ystyrir yn rhan o Sansibar.

Mae gan yr ynys arwynebedd o 1554 km² a phoblogaeth o tua 1 miliwn. Y brifddinas yw dinas Sansibar. Tyfu sbeis yw'r prif weithgarwch economaidd. Roedd yr Arabiaid wedi ymsefydlu yma erbyn y 10g, ac erbyn i Vasco da Gama ymweld yn 1498 roedd yn cynnal masnach lewyrchus ag India. Glaniodd y Portiwgeaid ar yr ynys yn 1503. Yn 1698, daeth i feddiant Swltan Oman. Daeth i feddiant Prydain yn niwedd y 19g. Daeth yn annibynnol yn niwedd 1963, ac yn fuan wedyn ymunodd â Thanganica i greu Tansanïa. Mae ganddi fesur helaeth o ymreolaeth o fewn Tansanïa, gyda'i Arlywydd ei hun, dydd hefyd y Ddirpwy-arlywydd Tansanïa.
Hyd nes i Cenia ddod yn annibynnol yn 1963, roedd Mombassa dan reolaeth Sansibar. Wedi hynny, daeth yn rhan o Cenia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "Zanzibar"
