Talaith
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Am ddefnyddiau eraill gweler talaith (gwahaniaethu).
Mae talaith yn gymdeithas gwleidyddol gyda sofraniaeth dros ardal ddaearyddol. Mae fel arfer yn cynnwys set o sefydliadau sy'n hawlio'r awdurdod i greu'r rheolau sy'n llywodraethu pobl y gymdeithas yn yr ardal, er mae ei statws fel talaith yn aml yn dibynnu yn rhannol ar gael ei adnabod gan nifer o dalethau eraill o gael sofraniaeth allanol a mewnol drosti. Yng nghymdeithaseg, adnabyddir fel talaith yn gyffredinol gan y sefydliadau: yn ôl diffiniad dylanwadol Max Weber, mae'n sefydliad sydd gyda "monopoli ar y defnydd cyfreithlon o rym corfforol o fewn y tiriogaeth penodol," a gall gynnwyd byddin arfog, gwasanaeth sifil neu fiwrocratiaeth talaith, llysoedd, a heddlu.