Max Weber
Max Weber | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Maximilian Carl Emil Weber ![]() 21 Ebrill 1864 ![]() Erfurt ![]() |
Bu farw | 14 Mehefin 1920 ![]() o niwmonia, Pandemig ffliw 1918 ![]() München ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, economegydd, cymdeithasegydd, athronydd, anthropolegydd, cyfreithiwr, academydd, cerddolegydd, gwleidydd, hanesydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Economy and Society, The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism, Science as a Vocation, Politics as a Vocation, General Economic History, The Religion of China, The Religion of India, Ancient Judaism ![]() |
Plaid Wleidyddol | National-Social Association, Progressive People's Party, Plaid Ddemocrataidd yr Almaen ![]() |
Tad | Max Weber ![]() |
Mam | Helene Sarah Julie Fallenstein ![]() |
Priod | Marianne Weber ![]() |
Partner | Mina Tobler, Else von Richthofen ![]() |
Llinach | Weber family ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Maximilian Carl Emil Weber (21 Ebrill 1864 – 14 Mehefin 1920). Ganed ef yn Erfurt yn Thuringia, yn blentyn hynaf i Max Weber, gwleidydd rhyddfrydol a gwas sifil. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Berlin, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio ym mhrifysgolion Freiburg, Heidelberg a München.
Roedd prif ddiddordebau Weber yn ymwneud â chymdeithaseg crefydd a llywodraeth. Ei gyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Ethig Protestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth, lle mae'n dadlau fod crefydd yn un o'r rhesymau pwysicaf am y gwahaniaethau yn natblygiad diwylliannau y gorllewin a'r dwyrain. Ei ddamcaniaeth oedd fod nodweddion Protestaniaeth wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth.
Mewn gwaith arall, Gwleidyddiaeth fel Galwedigaeth, diffiniodd Weber y wladwriaeth fel y corff sy'n hawlio monopoli ar ddefnydd cyfreithlon grym, diffiniad sydd wedi dod yn allweddol i wyddor gwleidyddiaeth.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Ellis Roberts, Weber, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1982)