Prifysgol Humboldt Berlin
Prifysgol Humboldt Berlin | |||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Humboldt-Universität zu Berlin | |||||||||||||||||
![]() | |||||||||||||||||
Sêl y brifysgol | |||||||||||||||||
Arwyddair | Universitas litterarum (Lladin) | ||||||||||||||||
Arwyddair yn Gymraeg | Endid y Gwyddorau | ||||||||||||||||
Sefydlwyd | Hydref 15, 1810[1] | ||||||||||||||||
Math | Cyhoeddus | ||||||||||||||||
Gwaddol | €397.8 miliwn[2] | ||||||||||||||||
Staff | 2,403 (academaidd)[2] 1,516 (gweinyddol)[2] | ||||||||||||||||
Myfyrwyr | 32,553[2] | ||||||||||||||||
Israddedigion | 18,712[3] | ||||||||||||||||
Ôlraddedigion | 10,881[3] | ||||||||||||||||
Myfyrwyr doethuriaeth | 2,951[3] | ||||||||||||||||
Lleoliad | Berlin, Yr Almaen | ||||||||||||||||
Lliwiau | Glas a gwyn | ||||||||||||||||
![]() | |||||||||||||||||
Gwefan | www.hu-berlin.de |
Prifysgol gyhoeddus a leolir ym mwrdeistref Mitte ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin, yw Prifysgol Humboldt Berlin (Almaeneg: Humboldt-Universität zu Berlin). Sefydlwyd Prifysgol Berlin (Universität zu Berlin) yn 1809 gan Ffredrig Wiliam III, brenin Prwsia, ar gais Wilhelm von Humboldt, ac agorodd yn 1809.[4] Hon yw'r hynaf o'r pedair prifysgol sydd ym Merlin. O 1828 hyd ei gau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945, ei enw oedd Prifysgol Friedrich Wilhelm (Friedrich-Wilhelms-Universität).[5] Fe'i hail-agorwyd yn 1949 dan yr awdurdodau Sofietaidd yn Nwyrain Berlin gyda'r enw newydd Prifysgol Humboldt Berlin.[6]
Rhennir y brifysgol yn naw cyfadran, gan gynnwys yr ysgol feddygol sy'n gysylltiedig hefyd â Phrifysgol Rydd Berlin. Mae ganddi 32,000 o fyfyrwyr sydd yn astudio cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn rhyw 189 o ddisgyblaethau.[7] Lleolir y prif gampws ar rodfa'r Unter den Linden yng nghanol Berlin. Cydnabyddir y brifysgol am arloesi model Humboldt yn addysg uwchradd, sydd wedi dylanwadu'n gryf ar brifysgolion eraill yn Ewrop a'r Gorllewin. Gelwir Humboldt felly yn "fam y brifysgol fodern".[8]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ https://www.hu-berlin.de/de/service/veranstaltungen/250-jahre-wilhelm-von-humboldt/man-beruft-eben-tuechtige-maenner-und-laesst-die-universitaet-sich-allmaehlich-encadrieren
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Facts and Figures". Humboldt University of Berlin. Cyrchwyd 2017-06-15.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Cyrchwyd 2013-12-02. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ "Das moderne Original der Reformuniversität" (yn German). Humboldt-Universität zu Berlin. Cyrchwyd 15 Ionawr 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ https://www.britannica.com/topic/Humboldt-University-of-Berlin
- ↑ http://www.dw.com/en/berlins-oldest-university-faces-new-challenges-as-it-turns-200/a-6106014
- ↑ hu_adm. "Daten und Zahlen zur Humboldt-Universität — Humboldt-Universität zu Berlin". www.hu-berlin.de (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2018-01-11.
- ↑ Connell Helen, University Research Management Meeting the Institutional Challenge: Meeting the Institutional Challenge, t. 137, OECD, 2005, ISBN 9789264017450