Wilhelm von Humboldt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wilhelm von Humboldt
W.v.Humboldt.jpg
Lithograff o Wilhelm von Humboldt gan Friedrich Oldermann ar ôl llun gan Franz Krüger.
GanwydFriedrich Wilhelm Christian Karl Ferdinand von Humboldt Edit this on Wikidata
22 Mehefin 1767 Edit this on Wikidata
Potsdam, Kabinetthaus Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1835 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Alma Mater Viadrina
  • Prifysgol Göttingen Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, diplomydd, anthropolegydd, athro, gwleidydd, athronydd, ysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata
Swyddambassador of Germany to the United Kingdom Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MudiadGerman new humanism Edit this on Wikidata
TadAlexander Georg von Humboldt Edit this on Wikidata
MamMarie-Elisabeth von Humboldt Edit this on Wikidata
PriodCaroline von Humboldt Edit this on Wikidata
PlantGabriele von Bülow, Adelheid von Hedemann, Caroline von Humboldt, Theodor von Humboldt Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Du, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Urdd y Dannebrog Edit this on Wikidata

Ieithydd ac athronydd yn yr iaith Almaeneg a diplomydd a gweinyddwr addysg yn llywodraeth Prwsia oedd Friedrich Wilhelm Christian Karl Ferdinand, Freiherr von Humboldt (22 Mehefin 17678 Ebrill 1835).[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Wilhelm von Humboldt yn Potsdam, Prwsia, ar 22 Mehefin 1767. Ei frawd iau oedd Alexander von Humboldt. Astudiodd y gyfraith ym Merlin a Göttingen.

Cwblhaodd ei astudiaethau ym Mhrifysgol Jena o 1794 i 1797, ac yno magodd gyfeillgarwch agos â Friedrich Schiller.

Ysgolheictod ieithyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Humboldt flas ar ieitheg wrth iddo deithio drwy Sbaen a Ffrainc, wedi iddo raddio o Brifysgol Jena. Ei brif weithiau yn y maes hwn yw ei astudiaethau o'r Fasgeg (1821) a'r Kavi, iaith hynafol Jawa, a gyhoeddwyd wedi ei farw (1836–40).

Gyrfa ddiplomyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo ddychwelyd i Brwsia ar ôl ei deithiau yn Sbaen a Ffrainc, penodwyd Humboldt yn weinidog preswyl Prwsia i Rufain, a gwasanaethodd yn y swydd ddiplomyddol honno o 1801 i 1808.

Gwasanaethodd yn llysgennad i Fienna, Llundain, a Berlin yn y cyfnod o 1810 i 1819. Yn ystod Cyngres Prag (1813), llwyddodd i ddwyn perswâd ar Awstria i ymgynghreirio â Rwsia a Phrwsia yn erbyn Ffrainc wrth i Ryfeloedd Napoleon barhau. Ym 1815, Ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn polisïau'r llywodraeth.

Diwygiadau addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei draethawd Über das Studium des Klassischen Altertums (1793), crynhoiai Humboldt ei raglen ar gyfer diwygio addysg yn yr Almaen, syniadau sydd yn esiamplau o'r newydd-ddyneiddiaeth Almaenig. Dylanwadwyd arno yn gryf gan egwyddorion addysgol Johann Heinrich Pestalozzi, a sefydlodd sawl ysgol yn y Swistir.

Rhoddwyd gyfle i Humboldt roi ei syniadau ar waith pan gafodd ei benodi'n swyddog uwch yn adran gartref llywodraeth Prwsia ym 1809, ac yn gyfrifol yn y swydd honno am addysg gyhoeddus a materion crefyddol. Anfonai athrawon i'r Swistir i astudio dulliau Pestalozzi. Ar gais Humboldt, sefydlwyd Prifysgol Berlin ym 1809 gan y Brenin Ffredrig Wiliam III. Byddai'r honno yn cael ei hail-enwi'n Brifysgol Humboldt Berlin yn sgil ei hail-agor ym 1949. Bu Humboldt hefyd yn gyfrifol am ddiwygio'r drefn addysg gynradd ym Mhrwsia, gan godi'r safonau i hyfforddi ac ardystio athrawon. Ymddiswyddodd o'r adran gartref yn Ebrill 1810, am ei fod yn anfodlon â'i safle israddol.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Alexander von Humboldt yn Tegel, ger Berlin, ar 8 Ebrill 1835.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Wilhelm von Humboldt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Paul Robinson Sweet, Wilhelm von Humboldt: A Biography, dwy gyfrol (Columbus, Ohio: Ohio State University Press, 1978, 1980).
  • James W. Underhill, Humboldt, Worldview and Language (Caeredin: Edinburgh University Press, 2009).