Prifysgol Ludwig Maximilian München

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol München
Mathprifysgol ymchwil gyhoeddus, comprehensive university, University of Excellence, prifysgol gyhoeddus Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLouis IX, Maximilian I Joseph o Fafaria Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1472 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMünchen Edit this on Wikidata
SirMünchen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau48.1508°N 11.5803°E Edit this on Wikidata
Map

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Ludwig Maximilian München (Almaeneg: Ludwig-Maximilians Universität München, LMU) a leolir ym München yn nhalaith Bafaria.

Sefydlwyd Prifysgol Ingolstadt gan Ludwig IX, Dug Bafaria, ym 1472, ar batrwm Prifysgol Fienna. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, trodd Johann Eck y brifysgol yn ganolfan i'r gwrthwynebiad Catholig Rhufeinig yn erbyn Martin Luther. Bu'n ganolfan ddiwinyddol yn bennaf, dan ddylanwad dyneiddiaeth y Dadeni a'r Gwrth-Ddiwygiad, nes iddi ddod dan ddylanwad yr Oleuedigaeth yn ail hanner y 18g. Sefydlwyd ysgolion economeg a gwyddor gwleidyddiaeth yno ym 1799.[1]

Ym 1800, ar orchymyn Maximilian IV Joseph, Tywysog-Etholydd Bafaria, symudodd y brifysgol i Landshut ym 1800 ac fe'i ailenwyd yn Brifysgol Ludwig Maximilian, gan gyfuno enw ei hun gydag enw'r Dug Ludwig IX. Ym 1826, symudodd Ludwig I, Brenin Bafaria, y brifysgol i München. Sefydlwyd ysgol dechnegol, ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth, ym 1868.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) University of Munich. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Hydref 2023.