Afon Zambezi

Oddi ar Wicipedia
Afon Zambezi
Mathy brif ffrwd Edit this on Wikidata
De-Sambesi.ogg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladAngola, Mosambic, Namibia, Sambia, Simbabwe Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau11.3702°S 24.3083°E, 18.5706°S 36.4703°E Edit this on Wikidata
AberCefnfor India Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Kafue, Afon Luangwa, Afon Shire, Afon Cuando, Afon Manyame, Afon Luena, Afon Kabompo, Afon Luanginga, Afon Lungwebungu, Afon Gairezi, Chongwe, Sapi river, Afon Gwayi, Afon Sakeji, Revúboé River, Luia river Edit this on Wikidata
Dalgylch1,570,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,574 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad7,000 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddCahora Bassa Reservoir, Kariba Dam Edit this on Wikidata
Map

Afon fawr yn Ne Affrica yw Afon Zambezi. Hi yw'r pedwerydd afon mwyaf ar gyfandir Affrica (tua 1,347,000 km²; 520,000 milltir sgwâr). Ei hyd yw 2740 km (1700 milltir) - mwy na'r pellter rhwng Caerdydd ac Athen.

Mae'n tarddu yng ngogledd-orllewin Sambia, ac yn llifo i'r de trwy ddwyrain Angola cyn llifo'n ôl i Sambia a rhedeg ar gwrs dwyreiniol ar hyd Llain Caprivi ar y ffin â Namibia. Mae Afon Cunado yn ymuno â hi o Namibia. Wedyn mae'n ffurfio'r ffin rhwng Sambia a Simbabwe lle ceir Rhaeadr Fictoria a Llyn Kariba a'i argae. Yna mae'n llifo i'r de-ddwyrain trwy coedwigoedd a savannah Mosambic, gan fynd trwy lyn artiffisial Argae Cahora Bassa, i aberu yng Nghefnfor India mewn delta anferth a chymhleth. Mae'r dinasoedd ar ei glannau yn cynnwys Lealui a Livingstone yn Sambia, a Zumbo, Tete, Sena a Chinde ym Mosambic.

Afon Zambezi lle mae ffiniau Namibia, Sambia, Simbabwe a Botswana yn cwrdd