Angola

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
República de Angola
Gweriniaeth Angola
Baner Angola Arfbais Angola
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Angola Avante!
(Portiwgaleg am: Angola Ymlaen!)
Lleoliad Angola
Prifddinas Luanda
Dinas fwyaf Luanda
Iaith / Ieithoedd swyddogol Portiwgaleg
Llywodraeth Democratiaeth amlbleidiol
- Arlywydd José Eduardo dos Santos
- Is-arlywydd Fernando da Piedade Dias dos Santos
Annibyniaeth
- Dyddiad
o Bortiwgal
11 Tachwedd 1975
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,246,700 km² (23ain)
dibwys
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 1970
 - Dwysedd
 
15,941,000 (61ain)
5,646,166
13/km² (199ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$43.362 biliwn (82ain)
$2,813 (126ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.445 (160fed) – isel
Arian cyfred Kwanza (AOA)
Cylchfa amser
 - Haf
WAT (UTC+1)
WAT (UTC+1)
Côd ISO y wlad .ao
Côd ffôn +244

Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Angola neu Angola (ym Mhortiwgaleg: República de Angola). Mae hi ar arfordir Cefnfor Iwerydd a gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r gogledd, Zambia i'r dwyrain, a Namibia i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1975. Prifddinas Angola yw Luanda.

Daearyddiaeth[golygu]

Mae Angola yn wlad yn ne-orllewin Canolbarth Affrica ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd i'r de o Afon Congo ac eithrio Llain Cabinda a wahanir o weddill y wlad gan ddarn o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Hanes[golygu]

Cyrhaeddodd y Portiwgaliaid Angola ar ddiwedd y 15fed ganrif. Yn raddol cawsai'r wlad ei meddianu ganddynt a'i throi'n drefedigaeth Bortiwgalaidd. Arosodd dan reolaeth Portiwgal hyd 1975 (ac eithrio cyfnod byr ym meddiant yr Iseldiroedd o 1641 hyd 1648).

Yn 1951 cafodd ei gwneud yn Dalaith Dramor ac felly'n rhan integreiddiedig o Bortiwgal. Yn ystod y 1950au a'r 1960au tyfodd cenedlaetholdeb Angolaidd a ffurfiwyd tri mudiad annibyniaeth: yr MPLA (Mudiad Poblogaidd dros Ryddid i Angola), yr FNLA (Ffrynt Cenedlaethol dros Ryddid i Angola) ac UNITA (Undeb Cenedlaethol dros Ryddid Llwyr i Angola).

Map o Angola

Yn 1974 cytunodd Portiwgal mewn egwyddor i roi annibyniaeth i'r wlad, ond yn wyneb anghydfod rhwng y tri mudiad annibyniaeth a gwrthwynebiad yr ymsefydlwyr Portiwgalaidd torrodd rhyfel cartref allan rhwng y carfanau hynny. Meddianwyd gwahanol rannau o'r wlad gan bob un o'r carfanau arfog. Pan grantiwyd annibyniaeth y canlyniad oedd i'r MPLA gyhoeddi ei llywodraeth ei hun yn Luanda dan yr enw Gweriniaeth Pobl Angola ac i'r FNLA a'i cynghreiriaid UNITA gyhoeddi Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Angola â'i phrifddinas yn Huambo. I gymhlethu'r darlun, roedd yr MPLA yn cael ei cefnogi gan yr Undeb Sofietaidd a Cuba tra roedd yr FNLA yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd Ewropeaidd. Cafodd UNITA gryn gefnogaeth gan lywodraeth apartheid De Affrica. Am gyfnod anfonodd Cuba filwyr i helpu'r MPLA ac aeth Che Guevara ei hun yno i helpu'r llywodraeth newydd. Enillodd y MPLA yn y diwedd ond cafodd y rhwygau a achoswyd gan y rhyfel effaith hir-dymor ar fywyd gwleidyddol ac economaidd y wlad.

Iaith a diwylliant[golygu]

Bantu o ran eu tras yw mwyafrif y bobl. Ceir hefyd bobl o dras gymysg a nifer bach o bobl o dras Portiwgalaidd ac Ewropeaidd. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gristnogion Catholig.

Economi[golygu]

Mae Angola'n mwynhau cyfoeth o adnoddau mwynol, yn cynnwys olew, haearn a deiamwntau. Mae tyfu coffi ar gyfer y farchnad dramor yn elfen bwysig yn economi'r wlad yn ogystal.

Unedau gweinyddol[golygu]

Prif erthygl: Taleithiau Angola.
Map o Angola gyda'r taleithiau wedi'u rifo

Rhennir Angola yn ddeunaw talaith (províncias) a 158 ardaloedd dinesig (municípios). Y taleithiau yw:

1 Bengo
2 Benguela
3 Bié
4 Cabinda
5 Cuando Cubango
6 Cuanza Norte
7 Cuanza Sul
8 Cunene
9 Huambo
10 Huila
11 Luanda
12 Lunda Norte
13 Lunda Sul
14 Malanje
15 Moxico
16 Namibe
17 Uige
18 Zaire

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Angola
yn Wiciadur.