Che Guevara

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Che Guevara
CheHigh.jpg
Llun gymerwyd gan Alberto Korda ar 5 Mawrth 1960, yng ngwasanaeth goffa Coubre
Ganwyd 14 Mehefin 1928 Edit this on Wikidata
Rosario Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Hydref 1967 Edit this on Wikidata (39 oed)
Achos: anaf balistig Edit this on Wikidata
La Higuera Edit this on Wikidata
Man preswyl Yr Ariannin, Cuba, Bolifia, Chile Edit this on Wikidata
Alma mater Universidad de Buenos Aires Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd, meddyg, bardd, diplomydd, athro, awdur ysgrifau, chwaraewr rygbi'r undeb, sgriptiwr, cofiannydd, banciwr Edit this on Wikidata
Aelod o 26th of July Movement Edit this on Wikidata
Priod Hilda Gadea, Aleida March Edit this on Wikidata
Plant Aleida Guevara, Unknown Edit this on Wikidata
Gwobr/au Collar of the Order of the White Lion, grand-croix de l'ordre national de la Croix du Sud, Order of the Republic Edit this on Wikidata
Llofnod
CheGuevaraSignature.svg

Ernesto Rafael Guevara de la Serna (14 Mai 19289 Hydref 1967) chwyldroadwr o'r Ariannin a chwareuodd ran allweddol yn chwyldro Ciwba.

Ei fywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Meddyg oedd Che o ran ei broffesiwn. Yn ddyn ifanc rhoddodd ei waith ei fyny a theithiodd yr holl ffordd trwy dde a chanolbarth America ar fotorbeic. Roedd y daith honno i newid ei fywyd. Bu'n llygad-dyst i dlodi ac anghyfiawnder ar raddfa eang a phenderfynodd fod rhaid newid hynny. Ym Mecsico syrthiodd i mewn gyda chriw o Giwbanwyr alltud a ddyheai weld chwyldro yn Ciwba. Un ohonynt oedd Fidel Castro.

Y chwyldroadwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Che yn aelod o Fudiad 26ain o Orffennaf dan arweiniad Fidel Castro a gipiodd awdurdod yn Ciwba yn 1959 ar ôl disodlu llywodraeth Batista. Gwasanaethodd mewn nifer o swyddi yn y llywodraeth newydd, ond canolbwyntiodd ar ddiywgio byd amaeth. Gadawodd Ciwba yn 1966 i geisio tanio chwyldro mewn gwledydd eraill gan gynnwys y Congo a Bolifia. Fe'i dienyddiwyd gan fyddin Bolifia yn Hydref 1967.

Ei ddylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd esiampl Che ddylanwad aruthrol ar genhedlaeth radicalaidd y 1960au. Tyfodd ei lun, yn benodol y ffotograff Guerrillero Heroico, i fod yn un o eiconau mwyaf amlwg y chwedegau a'r saithdegau cynnar. Mae Dafydd Iwan wedi canu cân i Che Guevara.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]