Gwatemala

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwatemala
Coat of arms of Guatemala.svg
República de Guatemala
Flag of Guatemala.svg
Arwyddair Tyfwch yn Rhydd a Ffrwythlon Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran, Gwlad Edit this on Wikidata
Prifddinas Dinas Gwatemala Edit this on Wikidata
Poblogaeth 15,468,203 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1821 Edit this on Wikidata
Anthem Himno Nacional de Guatemala Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Jimmy Morales Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−06:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol America Ladin, America Ganol, Canolbarth America Edit this on Wikidata
Arwynebedd 108,889 ±1 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel, Môr y Caribî Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Belîs, El Salfador, Hondwras, Mecsico Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 15.5°N 90.25°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Cyngor y Gweinidogion Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Cynghrair Gwatemala Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Jimmy Morales Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Jimmy Morales Edit this on Wikidata
LocationGuatemala.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $75,620 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $3,903 ±0.01 Edit this on Wikidata
Arian Quetzal Gwatemala Edit this on Wikidata
Chwyddiant 4.2 ±0.1 % Edit this on Wikidata
7,330,866,972 ±1 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 3 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 3.211 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.627 Edit this on Wikidata

Gwlad yng Nghanolbarth America yw Gwatemala neu'n swyddogol: Gweriniaeth Gwatamala neu República de Guatemala) ( /ɣwate'mala/). Fe'i lleolir rhwng Mecsico (i'r gogledd-orllewin), y Cefnfor Tawel (i'r de-orllewin), Belîs a'r Caribi i'r gogledd-ddwyrain, a Hondwras ac El Salfador i'r de-ddwyrain. Gyda phoblogaeth o dros 16 miliwn o bobl, mae'n un o wledydd mwyaf Canolbarth Aberica. Y Brifddinas yw Dinas Gwatemala, neu yn Sbaeneg: Nueva Guatemala de la Asunción.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Diwylliant Mayan[golygu | golygu cod y dudalen]

Don Pedro de Alvarado, gorchfygwr Gwatemala

Bu'r Maya yma am dros 1,000 o flynyddoedd, gyda'u tiriogaeth yn ymestyn dros Mesoamerica. Prif nodweddion y diwylliant Mayan oedd seryddiaeth, mathemateg a phensaernïaeth. Yn 16g, gorchfygwyd y trigolion gan Ymerodraeth Sbaen.

Daeth y wlad yn annibynol oddi wrth Sbaen ar 15 Medi, 1821, ond cafwyd cyfnodau cythryblus yn dilyn hynny, gyda sawl unben yn ceisio rheoli'r wlad, o dan oruchwyliaeth y United Fruit Company (a Llywodraeth yr UDA), fel un o'u banana republics.

Gwrthdaro arfog[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1944 cafwyd coup gan y fyddin, a dygwyd yr awennau o ddwylo'r unben Jorge Ubico; eu nod oedd democratiaeth ond parhaodd y rhyfel cartref am dros ddegawd. Yn 1954, daeth i ben pan gosodwyd unben a gefnogwyd gan UDA yn arweinydd y wlad. Ymfudodd llawer o'r teuluoedd brodorol i Fecsico a'r Unol Daleithiau.[1]

Y presennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2015, cafwyd llawer o wrthdystio sifil yn erbyn llywodraeth Otto Perez Molina.

Y boblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae 45% o'r boblogaeth yn Mestizos a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cynnwys disgynyddion Ewropeaidd: Sbaeneg, Almaeneg, Ffrangeg, Sgandinafia ac eraill. Llythrennedd: 75%. Tlodi: 55%. Boblogaeth drefol: 46%. Poblogaeth Benyw: 56%.

Crefydd:

  • Catholig: 59%
  • Protestannaidd (Lutheraidd, Anglicanaidd, Pentecostaidd, ac ati): 40%
  • credoau Mayan: 1%

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Coffi, cardamom, bananas, siwgr a tacabo yw'r prif gynnyrch allforio. Gyda GDP o dros 6,000 o ddoleri.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Gwatemala
  • llenyddiaeth: Miguel Angel Asturias.
Trigolion San Pedro la Laguna yn dathlu
Cenhedlu'r Forwyn Fair.

Dinas Gwatemala[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinas Gwatemala (Zona Pradera)

Sbaeneg: La Nueva Guatemala de la Asunción. Mae'n brifddinas fwyaf poblog a modern yng nghanolbarth America, gyda tua 2.5 miliwn o drigolion. Yn 1976, dioddefodd y ddinas ddaeargryn a'i dinistriodd bron yn gyfan gwbl. Fe'i sefydlwyd yn 1776, Santiago de los Caballeros (Antigua Guatemala) oedd y brifddinas hynafol a gafodd ei dinistrio yn y ddaeargryn yn 1973.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Blakeley, Ruth (2009). State Terrorism and Neoliberalism: The North in the South. Routledge. p. 92. ISBN 0415686172.