Costa Rica
| |||||
Arwyddair: Vivan siempre el trabajo y la paz | |||||
Anthem: Noble patria, tu hermosa bandera | |||||
Prifddinas | San José | ||||
Dinas fwyaf | San José | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd | Laura Chinchilla | ||||
Annibyniaeth • oddi wrth Sbaen via Mecsico • oddi wrth Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America |
15 Medi 1821 1838 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
51,100 km² (129fed) 0.7 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
4,327,000 (119fed) 85/km² (10fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $48.77 biliwn (84fed) $12,000 (62fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2005) | 0.841 (48fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Colón (CRC )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-5) (UTC-5) | ||||
Côd ISO y wlad | .cr | ||||
Côd ffôn | +506
|
Gwlad yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Costa Rica neu Costa Rica. Mae'n rhannu ffin â Nicaragwa i'r gogledd ac â Phanama i'r de-ddwyrain. Mae'r Cefnfor Tawel yn gorwedd i'r gorllewin ac i'r de ac mae Môr y Caribî yn gorwedd i'r dwyrain. Diddymodd Costa Rica ei byddin ym 1949.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd trigolion brodorol Costa Rica yn cynnwys y gwareiddiad Nahwatleg at Benrhyn Nicoya a dylanwadau Chibcha yn y de a'r canolbarth. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd oedd Christopher Columbus yn 1502. Daeth Costa Rica yn rhan o Ymerodraeth Sbaen, ond roedd yn llai llewyrchus na'r trefdigaethau Sbaenaidd eraill yng Nghanolbarth America. Ffurfiai Costa Rica ran fwyaf deheuol Sbaen Newydd, ymhell o brifddinas yr is-deyrnas, Dinas Mexico.
Yn 1821, ymunodd Costa Rica a threfedigaethau eraill Canolbarth America i gyhoeddi eu hanibynniaeth oddi wrth Sbaen. Wedi bod yn rhan o Ymerodraeth Mecsico am gyfnod byr, daeth Costa Rica yn un o daleithiau Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America o 1823 hyd 1839. Yn 1824, symudwyd y brifddinas i San José.
Yn 1838, cyhoeddodd Costa Rica ei bod yn gadael y Weriniaeth Ffederal a dod yn wlad annibynnol. Yn 1856, bu ymladd yn erbyn byddin William Walker, brodor o dde yr Unol Daleithiau, oedd wedi llwyddo i gipio grym yn Nicaragwa gyda byddin o hurfilwyr. Wedi ennill grym yno. ceisiodd Walker gipio Costa Rica hefyd. Ei fwriad oedd sefydlu trefn gymdeithasol debyg i dde yr Unol Daleithiau; yn Nicaragwa roedd wedi gwneud Saesneg yn iaith swyddogol a gwneud caethwasiaeth yn gyfreithlon. Gofynnodd yr Arlywydd Juan Rafael Mora Porras i'r Cadfridog José María Cañas Escamilla ffurfio byddin genedlaethol, ac ymladdwyd nifer o frwydrau yn erbyn byddin Walker, brwydrau Santa Rosa (4 Mawrth) a dwy frwydr Rivas 11 Ebrill 1856 ac 11 Ebrill 1857. Ar 1 Mai 1857, ildiodd Walker a gadawodd Ganolbarth America.
Bu rhyfel cartref byr yn 1948, pan arweiniodd José Figueres Ferrer wrthryfel yn dilyn etholiad arlywyddol y credid gan lawer fod y canlyniad yn amheus. Lladdwyd tua 2,000 yn y rhyfel. Enillodd y gwrthryfelwyr, ac wedi dod i rym, crewyd cyfansoddiad newydd. Ymhlith by newidiadau, gwnaed i ffwrdd a'r lluoedd arfog; y wlad gyntaf i wneud hynny. Etholwyd Figueres yn Arlywydd yn 1953.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd ffiniau Costa Rica â Nicaragwa gan Gytundebau Cañas-Jerez yn 1858 a Laudo Cleveland yn 1888, a gyda Panama gan gytundeb Echandi-Fernández yn 1941.
Mae Costa Rica yn wlad fynyddig, gyda'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth rhwng 900 a 1800 medr uwch lefel y môr. Ceir tair prif gadwyn o fynyddoedd, y Cordillera Meridional, y Cordillera SubVolcanica de Madrid a'r Cordillera Trepadora. Ynghanol y wlad ceir y Valle Central ("Dyffryn Canolog"), lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw. Y copa uchaf yw Cerro Chirripó (3,820 medr), y pumed copa yng Nghanolbarth America o ran uchder. Yr uchaf o'r llosgfynyddoedd yw Irazú (3,431 m.).
Ceir nifer o ynysoedd oddi ar arfordir Costa Rica, yn cynnwys Ynys Cocos ac Ynys Calero.
Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhennir Costa Rica yn saith talaith. Rhennir y taleithiau i 81 cantón, gyda maer yn gyfrifol am bob un. Rhennir pob cantón ymhellach i ardaloedd (distritos), 463 ohonynt i gyd.
Talaith | Prifddinas | Cantonau | Distritos | Arwynebedd (km²) | Poblogaeth* | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Alajuela | Alajuela | 15 | 108 | 9.757,53 | 716.286 | |
2 | Cartago | Cartago | 8 | 48 | 3.124,67 | 432.395 | |
3 | Guanacaste | Liberia | 11 | 59 | 10.140,71 | 264.238 | |
4 | Heredia | Heredia | 10 | 46 | 2.656,98 | 354.732 | |
5 | Limón | Limón | 6 | 27 | 9.188,52 | 389.295 | |
6 | Puntarenas | Puntarenas | 11 | 57 | 11.265,69 | 357.483 | |
7 | San José | San José | 20 | 118 | 4.965,90 | 1.345.750 | |
* Censo del año 2000 |
|