Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America
| Math | gwlad ar un adeg |
|---|---|
| Prifddinas | Dinas Gwatemala, San Salvador, Sonsonate |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | La Granadera |
| Pennaeth llywodraeth | Manuel José Arce, Mariano Beltranena y Llano, Francisco Morazán, José Francisco Barrundia, Francisco Morazán, José Gregorio Salazar, Francisco Morazán, Diego Vigil y Cocaña |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 520,000 km² |
| Yn ffinio gyda | Gran Colombia, Mecsico, Hondwras Prydeinig, Mosquitia |
| Cyfesurynnau | 14.6167°N 90.5167°W, 13.6989°N 89.1914°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Federal Government of the Federal Republic of Central America |
| Corff deddfwriaethol | Congress of the Federal Republic of Central America |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of the Federal Republic of Central America |
| Pennaeth y wladwriaeth | Manuel José Arce, Mariano Beltranena y Llano, Francisco Morazán, José Francisco Barrundia, Francisco Morazán, José Gregorio Salazar, Francisco Morazán, Diego Vigil y Cocaña |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Federal Republic of Central America |
| Pennaeth y Llywodraeth | Manuel José Arce, Mariano Beltranena y Llano, Francisco Morazán, José Francisco Barrundia, Francisco Morazán, José Gregorio Salazar, Francisco Morazán, Diego Vigil y Cocaña |
![]() | |
| Arian | Central American Republic real |
Gwladwriaeth yng Nghanolbarth America yn hanner cyntaf y 19g oedd Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America, yn wreiddiol gelwyd y wlad yn Taleithiau Unedig Canolbarth America.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y wladwriaeth yn 1823, ar batrwm Unol Daleithiau America, wedi i'r diriogaeth yma ennill annibyniaeth oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Roedd yn cynnwys taleithiau Gwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa a Costa Rica. Ar 5 Mehefin 1838 ychwanegwyd Los Altos, tiriogaeth sy'n awr yn dalaith Chiapas yn Mecsico.
Daeth yr undeb i ben rhwng 1838 a 1840. Ymwahanodd Nicaragwa o'r ffederasiwn ar 5 Tachwedd 1838, a dilynwyd hi gan Hondwras a Costa Rica. Erbyn 1840, roedd pedwar o'r pum aelod wedi eu cyhoeddi eu hunain yn annibynnol, er na ddaeth yr undeb i ben yn swyddogol hyd Chwefror 1841, pan gyhoeddodd El Salfador ei hannibyniaeth.
Baner Unol Daleithiau Canolbarth America - Gweriniaeth Ffederal Canolfbarth America (1823-1839)
[golygu | golygu cod]-
Baner Unol Daleithiau Canolbarth America rhwng 21 Awst 1823 a 22 Tachwedd 1824
-
Baner filwrol Undol Daleithiau Canolbarth America 1823 a 1824
-
Baner Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America 22 Tachwedd 1824 a 19 Tachwedd 1839
