Hondwras
| República de Honduras Gweriniaeth Hondwras | |
| Arwyddair | Libre, Soberana e Independiente |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
| Prifddinas | Tegucigalpa |
| Dinas fwyaf | Tegucigalpa |
| Poblogaeth | 8,303,771 |
| Sefydlwyd | 1810 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen) 1836 (eu cydnabod gan eraill) |
| Anthem | Anthem Genedlaethol Honduras |
| Pennaeth llywodraeth | Nasry Asfura |
| Cylchfa amser | UTC−06:00, America/Tegucigalpa |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | America Ladin |
| Arwynebedd | 112,492 km² |
| Yn ffinio gyda | Gwatemala, El Salfador, Nicaragwa |
| Cyfesurynnau | 14.63333°N 86.81667°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Hondwras |
| Corff deddfwriaethol | Cynghrair Cenedlaethol Hondwras |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Hondwras |
| Pennaeth y wladwriaeth | Nasry Asfura |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Hondwras |
| Pennaeth y Llywodraeth | Nasry Asfura |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $28,489 million, $31,718 million |
| Arian | Lempira Hondwraidd |
| Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 2.382 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.621 |
Gweriniaeth ddemocrataidd yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Hondwras (
ynganiad brodorol ; Sbaeneg: República de Honduras). Mae'n ffinio â Gwatemala i'r gorllewin, El Salfador i'r de-orllewin, i'r de gan y Cefnfor Tawel, ac i'r gogledd gan Fôr y Caribî. Arferid cyfeirio ati fel "Hondwras Sbaenig" er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth "Hondwras Prydeinig" (ers hynny: Belîs).[1] Sefydlwyd sawl diwylliant Mesoamericanaidd yma, ganrifoedd cyn i'r dyn gwyn oresgyn y wlad yn y 16g. Mae'r Sbaeneg yn dal i gael ei siarad, ochr yn ochr a'r ieithoedd brodorol. Sicrhawyd annibyniaeth y wlad oddi wrth Sbaen yn 1821. Mae ganddi boblogaeth o 8,303,771 (2013).
Mae Hondwras yn un o'r gwledydd tlotaf yn Hemisffer y Gogledd, ac mae awdurdod y wlad yn ganolog ac oddi fewn i'r gymdeithas yn fregys iawn. Yn 1960, trosglwyddwyd yr hyn a elwid yn "Arfordir y Mostgito" o Nicaragwa i Hondwras gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.[2] Yn wleidyddol, roedd y wlad yn eitha sefydlog hyd at coup d'état 2009 a'r etholiad arlywyddol yn 2017. Yn niwedd y 2010au, roedd y gymhareb llofruddiaethau i bob mil person, yn Hondwras - a'r trais yn erbyn merched yn waeth nag unrhyw wlad arall ar y blaned.[3][4]
Amaethyddiaeth yw sail economi'r wlad, a cheir trychinebau natur yn aml, megis Corwynt Mitch yn 1998 a ysgydwodd y wlad i'w seiliau. Yn y trefi a'r dinasoedd mae cyfoeth y wlad, fodd bynnag. Mae Mynegai Datblygiad Dynol ar hyn o bryd yn 0.621.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Archeological Investigations in the Bay Islands, Spanish Honduras". Aboututila.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-22. Cyrchwyd 27 Mehefin 2010.
- ↑ "Mosquito Coast". Encyclopædia Britannica. Britannica Concise Encyclopedia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2007-08-03.
- ↑ Parkinson, Charles (21 Ebrill 2014). "Latin America is World's Most Violent Region: UN". InSight Crime. Cyrchwyd 9 Chwefror 2016.
- ↑ Hawkins, Darren, and Melissa Humes. "Human Rights and Domestic Violence." Political Science Quarterly, cyfrol. 117, rhif. 2, 2002, tt. 231–257. JSTOR, JSTOR, www.jstor.org/stable/798182.
- ↑ "Human Development Report 2016: Human Development for Everyone" (PDF).
| |||||
