Nahwatleg
| Enghraifft o: | human language |
|---|---|
| Math | ieithoedd Nahwatl, Ieithoedd Uto-Astecaidd, ieithoedd brodorol yr Amerig |
| Rhan o | ieithoedd brodorol Mecsico |
| Enw brodorol | Nawatlahtolli |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-2 | nah |
| Gwladwriaeth | Mecsico, El Salfador |
| System ysgrifennu | y sgript Ladin, Aztec script |
| Corff rheoleiddio | Instituto Nacional de Lenguas Indígenas |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05hjc |
| Thesawrws y BNCF | 6232 |
| Quora | Nahuatl |
Iaith yn perthyn i deulu yr ieithoedd Uto-Astecaidd yw Nahwatleg (yn dod o nāhua-tl, "sain glir neu ddymunol" a tlahtōl-li, "iaith"). Fe'i siaredir ym Mecsico yn bennaf, gyda rhai siaradwyr yn yr Unol Daleithiau a rhai o wledydd canolbarth America. Nahwatleg yw'r iaith frodorol gyda'r nifer fwyaf o siaradwyr ym Mecsico, gyda thua miliwn a hanner o siaradwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ddwyieithog ynghyd â Sbaeneg. Ceir nifer o dafodieithoedd gwahanol.
Nahwatleg oedd lingua franca ymerodraeth yr Astec o'r 13g hyd ei chwymp yn 1521. Parhaodd yr iaith i ledaenu hyd yn oed ar ôl y goncwest Sbaenaidd, oherwydd defnyddid hi gan genhadon ac eraill. Dechreuwyd defnyddio yr wyddor Ladin ar gyfer ysgrifennu'r iaith, a chyhoeddwyd y llyfr argarffedig cyntaf ynddi, Doctrina cristiana breve traducida en lengua mexicana, gan Alonso de Molina yn 1546.
Daw geiriau megis "tomato" a "siocled" o'r iaith Nahwatleg.

gwyrdd = cyn y goncwest Sbaenaidd; coch = heddiw