Vladimir Lenin
Vladimir Lenin | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Ленин, Ильин, Н. Ленин, Старик, К. Тулин ![]() |
Llais | Lenin - What Is Soviet Power.ogg ![]() |
Ganwyd | Владимир Ильич Ульянов ![]() 22 Ebrill 1870 ![]() Ulyanovsk ![]() |
Bu farw | 21 Ionawr 1924 ![]() Bolshiye Gorki ![]() |
Man preswyl | Podolsk, St Petersburg, Moscfa, Shushenskoye, Schwabing, Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, economegydd, cyfreithiwr, chwyldroadwr, newyddiadurwr, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol ![]() |
Swydd | Chairman of the Council of People's Commissars of the Russian SFSR, Chairman of the Council of People's Commissars, Q61899333 ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Imperialism, the Highest Stage of Capitalism ![]() |
Prif ddylanwad | Karl Marx, Friedrich Engels, Georgi Plekhanov, Alexander Ivanovich Herzen, Georg Hegel, Karl Kautsky, Joseph Dietzgen ![]() |
Taldra | 165 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic), Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Mudiad | Gwrth-imperialaeth, anti-capitalism, Marcsiaeth, class struggle ![]() |
Tad | Ilya Nikolaevich Ulyanov ![]() |
Mam | Maria Alexandrovna Ulyanova ![]() |
Priod | Nadezhda Krupskaya ![]() |
Llinach | Blank family ![]() |
Gwobr/au | Work order of Corasmia ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Chwyldroadwr Rwsiaidd, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин), enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Улья́нов) (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei harwain at fuddugoliaeth yn chwyldroau Rwsia. Ystyrir yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialyddiaeth wyddonol ynghŷd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol, a gelwir ei syniadaeth yn Leniniaeth.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei olygon gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwplhau gradd yn y gyfraith.
Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref Shushenskoye, ger Minusinsk yn Siberia, o 1897 hyd 1900.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Что делать? (1902)
- Шаг вперёд, два шага назад (1904)
- Материализм и эмпириокритицизм (1909)
- Y wladwriaeth a'r chwyldro (1917)
- Imperialaeth, Cyfnod uchaf Cyfalafiaeth (1917)
- Детская болезнь "левизны" в коммунизме (1920)