Minusinsk
| Math | tref neu ddinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 68,603 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+07:00 |
| Gefeilldref/i | Norilsk |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Minusinsk Urban District, Tomsky Uyezd, Q4295273, Minusinsk Uyezd, Minusinsky District, Crai Krasnoyarsk |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 62 km² |
| Uwch y môr | 250 metr |
| Gerllaw | Afon Yenisei |
| Cyfesurynnau | 53.7°N 91.6833°E |
| Cod post | 662600 |
![]() | |


Tref hanesyddol yn Crai Krasnoyarsk, Rwsia, yw Minusinsk (Rwseg: Минуси́нск), a leolir ar gymer (insk) Afon Minusa yn Afon Yenisei yn ne Siberia. Poblogaeth: 71,170 (Cyfrifiad 2010).
Archaeoleg
[golygu | golygu cod]Gorwedd Minusinsk yng nghanol Pant Minusinsk, sy'n ardal o ddiddordeb archaeolegol mawr a gysylltir a diwylliannau cynhanesyddol Afanasevo, Tashtyk, a Tagar - i gyd yn cael eu henwi ar ôl pentrefi ger Minusinsk.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Minyusinskoye (Минюсинское) yn y cyfnod 1739-40 ar gymer Afon Minusa yn Afon Yenisei. Newidiodd yr enw i Minusinskoye (Минусинское) yn 1810.[1]
Erbyn 1822, roedd Minusinsk wedi datblygu yn ganolfan ffermio a masnach ranbarthol a chafodd statws tref. Yn ystod y 19g daeth yn ganolfan ddiwyllianol i ardal eang o'i chwmpas. Agorodd Amgueddfa Hanes Natur Martyanov yno yn 1877.[1] Mae'n dal yn agored ac yn weithgar heddiw. Denai'r dref a'r ardal artistiaid Rwsiaidd hefyd, er enghraifft y paentiwr Vasily Surikov.
Yn nes ymlaen, daeth y dref a'i hamgueddfa yn noddfa ymenyddol i weithredwyr gwleidyddol a chwyldroadwyr a alltudwyd o Rwsia Ewropeaidd yn y 1880au. Arferai Vladimir Lenin ymweld â Minusinsk yn rheolaidd pan oedd mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref cyfagos Shushenskoye o 1897 hyd 1900.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Н. И. Дроздов, В. С. Боровец "Енисейский энциклопедический словарь". Krasnoyarsk, 1998 (ISBN 5883290051), pp. 391.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y dref Archifwyd 2011-05-05 yn y Peiriant Wayback
