Nadezhda Krupskaya

Oddi ar Wicipedia
Nadezhda Krupskaya
GanwydНадежда Константиновна Крупская Edit this on Wikidata
14 Chwefror 1869 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1939 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
AddysgDoethuriaeth Nauk mewn Addysgeg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyrsiau Bestuzhev Edit this on Wikidata
Galwedigaethllyfrgellydd, ysgrifennwr, athro, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Presidium of the Supreme Soviet of the USSR, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Plaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia Edit this on Wikidata
TadKonstantin Krupsky Edit this on Wikidata
MamElizaveta Krupskaya Edit this on Wikidata
PriodVladimir Lenin Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Urdd Baner Coch y Llafur Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures o Rwsia oedd Nadezhda Krupskaya (Rwsieg: Наде́жда Константи́новна Кру́пская; 14 Chwefror 1869 - 27 Chwefror 1939) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel llyfrgellydd, athro a gwleidydd. Roedd yn wraig i Vladimir Lenin o 1898 hyd at ei farwolaeth yn 1924. Bu'n Ddirprwy Weinidog Addysg yr Undeb Sofietaidd o 1929 hyd ei marwolaeth ym 1939.[1]

Fe'i ganed yn St Petersburg, Rwsia a bu farw yn Moscfa; fe'i claddwyd ym Mur Necropolis y Kremlin.[2][3][4][5][6]

Teulu a magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Nadezhda Krupskaya i deulu dosbarth uwch, ond tlawd. Roedd ei thad, Konstantin Ignat'evich Krupski (1837–1897), yn swyddog milwrol ym Myddin Rwsia ac yn uchelwr yn Ymerodraeth Rwsia; yn 1847, yn naw oed roedd yn blenytn amddifad. Addysgwyd ef a rhoddwyd comisiwn iddo fel swyddog traed yn y Fyddin. Yn union cyn gadael am ei aseiniad yng Ngwlad Pwyl, priododd â mam Krupskaya. Ar ôl chwe blynedd o wasanaeth, collodd Krupski ffafriaeth gyda'i oruchwylwyr ac fe gyhuddwyd ef o "weithgareddau di-Rwsiaidd." Efallai ei fod wedi'i amau ​​o fod yn gysylltiedig â chwyldroadwyr. Yn dilyn yr amser hwn bu'n gweithio mewn ffatrïoedd neu ble bynnag y gallai ddod o hyd i waith. Cyn ei farwolaeth, cafodd ei ail-gomisiynu'n swyddog.[7]

Roedd mam Krupskaya, Elizaveta Vasilyevna Tistrova (1836–1915), yn ferch i uchelwyr Rwsiaidd a oedd wedi colli eu tiroedd. Bu farw rhieni Elizaveta pan oedd yn ifanc a chafodd ei chofrestru ar 'Gyrsiau Bestuzhev', yr addysg ffurfiol orau a oedd ar gael i fenywod yn Rwsia ar y pryd. Ar ôl ennill ei gradd, gweithiodd Elizaveta fel athrawes i deuluoedd bonheddig nes iddi briodi Krupski.[8]

Nadezhda Krupskaya yn 1890

[9][10]

Mae'n debyg bod cael rhieni a oedd wedi'u haddysgu'n dda ac o dras aristocrataidd, ynghyd â phrofiad uniongyrchol o amodau gwaith dosbarth is, wedi arwain Nadezhda Krupskaya at ffurfio llawer o gredoau ideolegol Krupskaya. "O'i phlentyndod cynnar cafodd Krupskaya ei hysbrydoli gan ysbryd protest yn erbyn y bywyd hyll o'i chwmpas."[11]

Disgrifiodd un o ffrindiau ysgol Krupskaya, sef Ariadne Tyrkova, hi yn "ferch dawel, dlawd, nad oedd yn ymwneud a'r bechgyn, gyda meddwl ystyriol, roedd eisoes wedi ffurfio euogfarnau cryf, ac yn ferch benderfynol iawn."

Y byd addysg[golygu | golygu cod]

Ar ôl marwolaeth ei thad, rhoddodd Krupskaya a'i mam wersi, a oedd yn ffynhonnell incwm i gadw'r teulu. Roedd Krupskaya wedi mynegi diddordeb mewn mynd i faes addysg yn ifanc. Fe'i tynnwyd yn arbennig at ddamcaniaethau Leo Tolstoy ar addysg, a oedd yn hyblyg, yn hytrach na strwythuredig. Roedd ei ddancaniaeth yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol pob myfyriwr ac yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y berthynas athro-myfyriwr.[12]

Fel myfyriwr ymroddedig, dechreuodd Krupskaya gymryd rhan mewn nifer o gylchoedd trafod. Ffurfiwyd y grwpiau hyn i astudio a thrafod pynciau penodol ac yn un o'r cylchoedd hyn, cyflwynwyd Krupskaya i ddamcaniaethau Marx, am y tro cyntaf. Fe wnaeth hyn ennyn ei diddordeb fel ffordd bosibl o wella ansawdd bywyd y bobl.

Priodi[golygu | golygu cod]

Cyfarfu Krupskaya am y tro cyntaf â Vladimir Ilyich Ulyanov (a elwir yn ddiweddarach yn Vladimir Lenin) ym 1894 mewn grŵp trafod. Gwnaeth ei areithiau, ond nid ei bersonoliaeth, argraff fawr arni, o leiaf nid ar y dechrau. Mae'n anodd gwybod llawer am y berthynas rhwng Lenin a Krupskaya gan nad oedd y naill na'r llall yn siarad yn aml am faterion personol.[13][14]

Gyda Lennin yn 1922

Yn Hydref 1896, sawl mis ar ôl arestio Lenin, cafodd Krupskaya ei arestio hefyd. Ar ôl peth amser, cafodd Lenin ei alltudio i Siberia. Ychydig iawn o gyfathrebu a fu rhyngddyn nhw, tra roeddent yn y carchar ond cyn gadael am Siberia, ysgrifennodd Lenin "nodyn cyfrinachol" i Krupskaya a gyflwynwyd iddi gan ei mam. Awgrymodd y gellid caniatáu iddi ymuno ag ef yn Siberia pe bai hi'n dweud wrth bobl mai hi oedd ei ddyweddi. Bryd hynny, roedd Krupskaya yn dal i aros am ddedfryd yn Siberia. Yn 1898, caniatawyd i Krupskaya fynd gyda Lenin ond dim ond os bydden nhw'n priodi, cyn gynted ag y cyrhaeddodd.[15]

Roedd ei pherthynas â Lenin yn fwy proffesiynol nac o briodas gariadus, ond arhosodd yn ffyddlon, heb ystyried ysgariad ar unrhyw adeg.

Roedd yn aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Gwyddorau y USSR, Bwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Pwyllgor Gwaith Canolog yr Undeb Sofietaidd, Pwyllgor Gwaith Canolog Rwsia Oll am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Lenin, Urdd Baner Coch y Llafur[16] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Scientific transliteration: Nadežda Konstantinovna Krupskaja.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12882934r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12882934r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: https://cs.isabart.org/person/132843. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132843. https://www.biografiasyvidas.com/biografia/k/krupskaia.htm.
  5. Dyddiad marw: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Nadezhda Krupskaya". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Nadezhda Konstantinovna Krupskaya". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Nadeschda Konstantinowna Krupskaja". https://cs.isabart.org/person/132843. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132843.
  6. Man geni: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  7. McNeal, 5–9.
  8. McNeal, 11–12.
  9. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/132843. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132843. https://cs.isabart.org/person/132843. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132843.
  10. Anrhydeddau: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  11. C. Bobrovskaija, Lenin and Krupskaja (New York City: Workers Library Publishers, Inc., 1940), 4.
  12. "Tolstoy, Leo", in Encyclopædia Britannica. Retrieved 21 Mawrth 2008.
  13. "Nadezhda Konstantinovna Krupskaya". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2016.
  14. Barbara Evans Clements, Bolshevik Women, Cambridge University Press, 1997.
  15. Marcia Nell Boroughs Scott, Nadezhda Konstantinovna Krupskaya: A flower in the dark. [Dissertation]. The University of Texas at Arlington, ProQuest Dissertations Publishing, 1996. 1383491.
  16. А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135