St Petersburg
| St Petersburg | |
|---|---|
| Lleoliad yn Rwsia | |
| Gwlad | Rwsia |
| Llywodraeth | |
| Daearyddiaeth | |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 4879566 (Cyfrifiad 2010) |
| Dwysedd Poblogaeth | 3390.4 /km2 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | MSK (UTC+4) |
Dinas ar lan y Môr Baltig yng ngogledd-orllewin Rwsia yw St Petersburg (Rwsieg Санкть–Петербургь / Sankt-Peterbúrg; Petrograd / Петроград 1914–24, Leningrad / Ленинград 1924–91). Sefydlwyd gan Pedr Fawr. Hi oedd prifddinas Rwsia yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hi yw ail ddinas fwyaf Rwsia heddiw ac yn 2002 roedd dros 4,700,000 o bobl yn byw yno.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd y ddinas fel "ffenestr ar y Gorllewin" gan Pedr Fawr ar 16 / 27 Mai 1703, pan gosodwyd sylfaen Caer Pedr a Phawl ganddo. Ddechrau'r un mis, roedd y Rwsiaid wedi cipio'r ardal (Ingria) a chaer Nyen (hefyd Nyenschanz) oddi wrth Sweden. Rhoddodd yr enw "St Petersburg" arni ar ôl enw ei nawddsant, yr apostol Sant Pedr. Yn y cyfnod hwnnw ceir hefyd enw Iseldireg ar y ddinas, Sankt Piter Bourgh neu St Petersburch, gan fod Pedr Fawr yn byw ac yn astudio yn Amsterdam a Zaandam am beth amser ym 1697. Sefydlwyd y dref ger olion y gaer Swedaidd ychydig nes at aber Afon Neva.
Adeiladwyd y dref yn ystod rhyfel a'r adeilad cyntaf i'w godi oedd y gaer (Caer Pedr a Phawl) a'r ddinas yn cael ei hadeiladu o'i gwmpas gan beirianyddion o'r Almaen a wahoddwyd i Rwsia gan Pedr. Sefydlwyd y ddinas fel prifddinas newydd Rwsia. Gan ei bod ar arfordir y Môr Baltig roedd hi'n gyswllt pwysig i wledydd y gorllewin yn ogystal â bod yn borthladd milwrol pwysig iawn gyda chaer Kronstadt yn ei hamddiffyn.
Daeth elît y wlad i fyw i St Petersburg ac erbyn heddiw mae llawer o'u plasdai yn y ddinas. Y mwyaf o'r rhain oedd Palas y Gaeaf a adeiladwyd gan Elisabeth o Rwsia rhwng 1754 a 1762. Lleolir Amgueddfa Genedlaethol yr Hermitage yno heddiw.
Rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861 ac o ganlyniad daeth llawer o bobl tlawd i'r ddinas. Ond roedd diwydiant yn llwyddiannus hefyd. Yn ogystal â hynny, roedd y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol y wlad, gyda llawer o arlunwyr ac awduron yn byw yno. Bu syniadau sosialaidd yn boblogaidd yn y ddinas ymysg deallusion ac yn St Petersburg y dechreuodd Chwyldro Rwsia 1905.
Ar 18 / 31 Awst 1914 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf newidiodd tsar Nicolas II enw'r ddinas i "Petrograd" am fod "St Petersburg" yn swnio'n rhy Almaeneg.
Ym 1917 dechreuodd Chwyldro Rwsia, ac o ganlyniad daeth rheolaeth y Tsar i ben a Gwrthryfel Rwsia yn dechrau. Roedd hinsawdd gwleidyddol y ddinas yn ansefydlog iawn ac felly symudodd Lenin, arweinwr y Bolsieficiaid y brifddinas o Petrograd i Moscfa. Ers hynny Moscfa yw prifddinas Rwsia. Ar 26 Ionawr 1924, tair blynedd ar ôl i Lenin farw, ailenwyd y ddinas unwaith eto i "Leningrad".
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwarchaewyd Leningrad o 8 Medi 1941 tan 27 Ionawr 1944 gan fyddin yr Almaen. Yn ystod yr adeg hon daeth nwyddau dros iâ Llyn Ladoga am gyfnod, ond bu farw 80,000 o'r 3,000,000 o drigolion yn y ddinas o newyn.
Newidwyd enw'r ddinas i St Petersburg, ei henw gwreiddiol, ar 6 Medi 1991 ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd.
Enwau'r ddinas[golygu | golygu cod y dudalen]
| Enw | O | Hyd |
| St Petersburg | 16 / 27 Mai 1703 | 18 / 31 Awst 1914 |
| Petrograd | 18 / 31 Awst 1914 | 26 Ionawr 1924 |
| Leningrad | 26 Ionawr 1924 | 6 Medi 1991 |
| St Petersburg | 6 Medi 1991 | heddiw |
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Alexander Borodin, cyfansoddwr (1833-1887)