Guerrillero Heroico

Oddi ar Wicipedia
Guerrillero Heroico
Enghraifft o'r canlynolffotograff Edit this on Wikidata
CrëwrAlberto Korda Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu-a-gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Genreportread Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLa Habana Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Guerrillero Heroico - ffotograff Alberto Korda o Che Guevara
Y fersiwn poblogaidd sydd wedi ei docio

Ffotograff eiconig o'r chwyldroadwr Marcsaidd Che Guevara yn gwisgo beret du yw Guerrillero Heroico (Sbaeneg am "'Herwfilwr Arwrol") a dynnwyd gan Alberto Korda. Fe'i dynnwyd ar 5 Mawrth 1960 yn Hafana, Ciwba, mewn gwasanaeth coffa am y rhai fu farw yn ffrwydrad La Coubre ac o ganlyniad i'w boblogrwydd bu'r arweinydd carismataidd a dadleuol yn eicon diwylliannol erbyn diwedd y 1960au.[1] Dywedodd Korda y cafodd ei dynnu at wyneb Guevara ar y foment y dynnwyd y llun gan yr "anghymodlondeb llwyr"[2] yn ogystal â'r dicter a phoen a welodd.[3] Blynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Korda bod y ffotograff yn dangos cymeriad diysgog a stoic Che.[4] Roedd Guevara yn 31 mlwydd oed pan dynnwyd y ffotograff.

Gan bwysleisio natur hollbresennol ac apêl eang y ddelwedd, enwodd Maryland Institute College of Art y llun yn symbol o'r 20g a ffotograff enwocaf y byd.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Communists, Capitalists still buy into Iconic Che Photo, Author says. CNN (5 Mai 2009).
  2. Jon Lee Anderson. Che Guevara : A revolutionary life. t. 465
  3. "Che Guevara: Revolutionary & Icon", by Trisha Ziff, Abrams Image, 2006, t. 15
  4. "Che Guevara: Revolutionary & Icon", by Trisha Ziff, Abrams Image, 2006, t. 33
  5. (Saesneg) Che Guevara photographer dies. BBC (26 Mai 2001).