Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo)
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd Congo.
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Coat of arms of the Democratic Republic of the Congo.svg
République Démocratique du Congo
Flag of the Democratic Republic of the Congo.svg
Arwyddair Cyfiawnder - Heddwch - Gwaith Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran, Gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Afon Congo Edit this on Wikidata
Prifddinas Kinshasa Edit this on Wikidata
Poblogaeth 86,790,567 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrth Gwlad Belg)
30 Mehefin 1960
Anthem Debout Congolais Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Bruno Tshibala Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Canol Affrica Edit this on Wikidata
Gwlad Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Arwynebedd 2,344,858 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Gweriniaeth Canolbarth Affrica, De Swdan, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Tansanïa, Sambia, Angola, Gweriniaeth y Congo, Swdan, Camerŵn, Rwanda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 2.88°S 23.656°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Llywodraeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Senedd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Félix Tshisekedi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Bruno Tshibala Edit this on Wikidata
Democratic Republic of the Congo (orthographic projection).svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $37,241 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $462 Edit this on Wikidata
Arian ffranc y Congo Edit this on Wikidata
Wrth gefn 695,398,161 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 6.006 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.457 Edit this on Wikidata

Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Ffrangeg: République Démocratique du Congo). Y gwledydd cyfagos yw De Swdan a Gweriniaeth Canolbarth Affrica i'r gogledd, Gweriniaeth y Congo (Brazzaville) i'r gorllewin, Angola a Sambia i'r de, a Thansanïa, Rwanda, Bwrwndi ac Wganda i’r dwyrain. Mae ganddi boblogaeth o 86,790,567 (2019)[1]. Weithiau, fe'i gelwir gyda'i hen enw, Zaire, sef yr enw a ddefnyddid rhwng 1971 a 1997. O ran ei harwynebedd, hi yw'r wlad fwyaf yn Affrica is-Sahara, a'r ail fwyaf yng nghyfandir Affrica. Ers 2015, gwelwyd llawer o ymladd yn ardal Kivu, yn nwyrain y wlad.

Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa.

Mae baner y wladwriaeth wedi newid sawl gwaith ers iddi ei hannibyniaeth yn 1960, oddi wrth Gwlad Belg. Y Prif Weinidog cyntaf oedd Patrice Lumumba (1925 – 1961) a'r Arlywydd oedd Joseph Kasa-Vubu (c. 1915 – 1969).

Ceir tystiolaeth o fodau dynol yno y wlad sy'n dyddio i 90,000 Cyn y presennol. Rhwng 14g a'r 19g roedd Teyrnas y Congo yn rheoli, wedi'i chanoli yn aber Afon Congo. Y Cymro Henry Morton Stanley oedd y dyn gwyn cyntaf i archwilio'r Congo, a hynny ar ran Leopold II o Wlad Belg a ffurfiolwyd 'hawliau' Gwlad Belg i'r wlad yng Nghynghrair Berlin yn 1885. Rhoddwyd yr enw Talaith Rydd y Congo' (Iseldireg: Kongo-Vrijstaat) arni.

Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn hynod gyfoethog o ran adnoddau naturiol, ond mae ganddi ansefydlogrwydd gwleidyddol, diffyg seilwaith, problemau â llygredd a chanrifau o echdynnu mwynau; mewn geiriau eraill, mae wedi ei hecsbloetio. Heblaw am y brifddinas Kinshasa, mae'r ddwy ddinas fwyaf wedyn, Lubumbashi a Mbuji-Mayi, wedi'u seilio ar fwyngloddio. Mae allforio mwyaf y Congo yn fwynau amrwd, gyda Tsieina yn derbyn dros 50% o'i hallforion yn 2012. Yn 2016, roedd lefel datblygiad dynol y Congo yn y 176ed allan o 187 o wledydd gan y Mynegai Datblygu Dynol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of the Democratic Republic of the Congo.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.