Leopold II, brenin Gwlad Belg
| Leopold II, brenin Gwlad Belg | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Ebrill 1835 Dinas Brwsel |
| Bu farw | 17 Rhagfyr 1909 Laeken |
| Swydd | Brenin y Belgiaid, Senator by Right, Sovereign of the Congo Free State |
| Tad | Leopold I |
| Mam | Louise o Orléans |
| Priod | Marie Henriette o Awstria, Blanche Delacroix |
| Plant | Louise van België, Leopold van België, Y Dywysoges Stéphanie o Wlad Belg, Clementine van België, Lucien Durrieux, Philippe Durrieux |
| Llinach | Tŷ Sachsen-Coburg a Gotha, Tŷ Sachsen-Coburg a Gotha |
| llofnod | |
Leopold II, Brenin y Belgiaid (Brwsel, 1835 – 1909) oedd ail frenin Gwlad Belg, ar ôl ei dad Leopold I o Wlad Belg. Teyrnasodd rhwng 1865 a 1909. Mae'n fwyaf adnabyddus am erchyllterau ac ecsbloetio Gwladwriaeth Rydd y Congo, y drefedigaeth a enwyd mor anhywir, gan iddo fanteisio ar y bobl a'r diriogaeth er ei fudd personol.
Mawraedd
[golygu | golygu cod]Roedd yn fab hynaf i'r Brenin Leopold I a Louise o Orleans. Roedd felly yn ŵyr i Francis Frederick o Saxony-Coburg Saafeld ac Augusta o Reuss drwy ei dad dad, tra roedd yn ŵyr i'r Brenin Louis-Philippe I, brenin Ffrainc a Mary Amelia o Bourbon-Dau Sisili drwy ei fam.
Yn ystod ei ieuenctid astudiodd gyda chymorth gwasanaethau cudd-wybodaeth y wlad brosiect i oresgyn yr Iseldiroedd i atodi hen Diroedd Catholig y Generalitat,[1] (tiroedd mwyafrifol Gatholig yn yr Iseldiroedd) breuddwyd na wireddwyd erioed oherwydd gwrthwynebiad ei dad a'i gwelodd yn ymgyrch rhy beryglus. Yn hytrach, anogodd Leopold I y tywysog ifanc i greu rhwydwaith o gysylltiadau diplomyddol a gwneud llawer o deithiau. Rhedodd ledled y byd ond ni ymwelodd â'r Congo erioed yn ei fywyd. [2] Yn ddyn ifanc breuddwydiodd am ymerodraeth Gwlad Belg “Gyda Brwsel yn brifddinas iddi, a wnaed gyda chymorth Duw yn Borneo, ynysoedd y Cefnfor Tawel, gyda rhannau o Affrica; America, China a Japan. ”[3] Yn 1876 gwireddodd yn rhannol ei freuddwyd o ddod yn wir sofran [4] a sefydlodd y Gymdeithas Affricanaidd Ryngwladol a oedd yn gyfrifol am ecsbloetio tiriogaeth y Congo er budd personol y brenin, gyda'r cytundeb rhyngwladol y daeth iddo yng Nghynhadledd Berlin, 1885, ar yr amod ei bod yn caniatáu masnach rydd a chyfrannu at "wareiddiad" y boblogaeth.
Meddiannu'r Congo
[golygu | golygu cod]Heb fynd yno erioed, enwodd Leopold II ei Wladwriaeth Rydd Congo o bell (Ffrangeg: État Indépendant du Congo), Gweriniaeth Ddemocrataidd bresennol y Congo. Ymgymerodd â pholisi treisgar a gormesol tuag at y trigolion brodorol, ac fe'u caethiwodd nhw. Lladdwyd rhwng deg a phymtheg miliwn yn y Congo o dan ei drefn. Caniataodd ecsbloetio'r Congo iddo gronni ffortiwn enfawr. Erbyn 1905, roedd wedi caslgu ffortiwn a oedd yn werth mwy na phum can miliwn o pesetas ar y pryd, ac ef oedd y degfed dyn cyfoethocaf. Ond ar wahân i'r buddion enfawr, mae gwaith Leopold yn y Congo wedi peri iddo fod yn ddrwgenwog am ei reolaeth drychinebus a'r miliynau o ddioddefwyr artaith, amodau gwaith gwael, llofruddiaeth ac arferion gwaedlyd megis gwneud y gorau o diriogaeth Congo. Defnyddiodd wybodaeth y teithiwr, Henry Morton Stanley o Lanelwy fel sail ei anturiaeth a thwyllodd Stanley arweinyddion cynhenid i ddarostwng gwrogaeth i Leopold. Gwnaeth Leopold elw o 220 Franc Belgaidd, neu $1 biliwn doler heddiw.[2] Er i Leopold ddweud yng Nghynhadledd Berlin y byddai croeso i fasnachwyr tramor weithio yn ei drefedigaeth, daeth yn amlwg gydag amser nad oedd hyn yn wir, ac o dipyn i beth oherwydd gwaith pobl fel y newyddiadurwr Edmund Dene Morel, masnachwr o Lerpwl daeth yr wybodaeth am echrychderau y Congo yn gyhoeddus. Datgelodd cenhadwr o'r enw John Harris a'i wraig, Alice, (oedd yn ffotograffydd) oedd yn byw yn y Congo am y sefyllfa annynol.[2]
Gwlad yn Feddiant Bersonol
[golygu | golygu cod]
Fel eiddo personol y brenin, nid oedd deddfau Gwlad Belg yn berthnasol yn y Congo ac nid oedd gan lywodraeth Gwlad Belg unrhyw awdurdod drosto. Yn y Congo, roedd Leopold yn sofran a gweithredodd drefn unbenaethol gyda dwylo yn cael eu torri ymaith pan nad oedd pobl yn cydweithredu a rhai nad oeddent mewn cyflwr i weithio mwyach yn cael eu saethu. Parhaodd y polisïau hyn am fwy na deugain mlynedd ac ni chawsant erioed eu cosbi na'u rhoi ar brawf gan unrhyw gorff cyfiawnder rhyngwladol. Defnyddiodd yr arian a gasglwyd yn y Congo i wneud gweithiau megalomanaidd ym Mrwsel, Ostend a dinasoedd eraill yn y wlad. [5] Fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd olaf teyrnasiad Leopold II, gwrthododd pobl Gwlad Belg ei bolisïau ac yn dilyn datgeliad gan gwmni i'r wasg yn Lloegr, cafwyd boicot masnach o nwyddau a darddai yn y Congo.[3] Temilai Leolpol ei hun iddo gael ei gamddeall fel brenin ac ym 1907 cwynodd am ing ei bobl: “Rwy'n sofran gwlad fach gyda phobl fach. Ar hyd fy oes rwyf wedi ymroi i'w ddaioni, ac mae'n fy nhrin fel lleidr a llofrudd.” [4]
Ym 1908, dan bwysau gan y Senedd, penderfynodd roi'r meddiant enfawr, yn rhodd wenwynig i'r senedd. Mae cryn anghysondeb rhwng y disgrifiad delfrydol o hanes swyddogol brenin defosiynol ac yn selog dros les y wlad ifanc a realiti cysylltiadau palas ac ecsbloetio didostur y Congo.[5]
Defnyddio Cristnogaeth i Gaethiwo Pobl y Congo
[golygu | golygu cod]Mewn araith yn 1883 i genhadon ac offeiriaid yr Eglwys Gatholig rhoddodd Leolpold ganllawiau clir, diflewyn ar dafod, hiliol a chreulon ar sut i ddefnyddio'r ffydd Gristnogol er mwyn darostwng pobl cynhenid ei drefedigaeth. Mae'r araith yn crynhoi popeth am agwedd Leopold at y Congo, crefydd a phobl, dyma rannau ohono:[6]
Bydd eich efengylu wedi ei hysbrydoli yn gyntaf gan fuddiannau Gwlad Belg ... ein prif gennad yn y Congo yw nid i ddysgu'r Duon am Dduw - maent yn gwybod hynny trwy eu cyndeidiaid ... byddwch yno i dehongli yr Efengyl yn y ffordd fydd orau i amddiffyn eich buddiannau yn y rhan yna o'r byd ac i wneud hynny, rhaid i chi wneud i'r anwariaid golli diddordeb yng nghyfoeth y tir maent yn ei feddiannu er mwyn osgoi eu bod yn cymryd diddordeb ynddo ... gan freuddwydio un dydd am eich gorychfygu a byw y bywyd bras yn eich lle chi. Bydd eich gwybodaeth o'r Ysgrythurau yn ein helpu i ddefnyddio adnodau arbennig fydd yn cynorthwyo ffyddloniaid i garu tlodi, er enghraifft, "gwyn eu byd y tlawd oherwydd byddant yn etifeddu'r nefoedd", "mae'n anodd i'r cyfoethog fyned i deyrnas nefoedd ayyb"
Dysgwch iddynt i ddioddef unrhyw beth ... byddwch yn eu dysgu bod pwy bynnag sy'n dial ddim yn blentyn i Dduw. Byddwch yn achosi iddynt ddilyn esiampl y seintiau a drodd y foch arall.
Dysgwch y disgyblion i gredu nid i resymegu ... efengylwch y Duon fel eu bod yn aros am byth yn wasaidd i'r coloneiddwyr Gwyn, fel na fyddant byth yn gwrthryfela yn erbyn y cyfyngiadau, anghyfiawderau maent yn ei dderbyn.
Gwnewch iddynt wastad fyfyrio a dweud "gwyn eu byd y rhai addfwyn - mae Teyrnas Duw ar ei cyfer." Defnyddiwch y chwip i roi troadigaeth i'r ... osgowch da chi bod y Duon yn dod yn gyfoethog am hynny canwch bob dydd ei bod yn amhosibl i'r cyfoethog fynd i'r nefoedd. Gwnewch iddynt dalu i'r Eglwys bob dydd Sul a defnyddiwch yr arian sydd ar gyfer y tlawd i'ch buddsoddiadau busnes eich hun. Dysgwch iddynt ei fod yn dda iddynt lwgu i farwolaeth tra eich bod chi'n bwyta o leiaf bum gwaith y dydd.
Cyflwynwch system o gyffes fydd yn eich gwneud chi yn dditectif da fel y gallwch gyhuddo, rhoi lawr person Du sydd ag ysbryd gwrthryfel yn erbyn y system.
Dysgwch iddynt bod eu cofebau a'u delwau yn waith y diafol, dygwch nhw a llenwch ein hamgueddfeydd â nhw. Dysgwch y Duon i anghofio eu cyndeidiau er mwyn addoli a rhoi moliant i'n rhai ni ... Dysgwch iddynt fod ar ee gliniau wrth weddio a cadwch nhw'n brysur wrth fynd i'r capel 10 neu fwy."
Gwaddol
[golygu | golygu cod]
Yn ystod ei reolaeth unbeniaethol o'r Congo, amcangyfrifir i rhwng 2–10 miliwn o Affricaniaid cynhenid farw[7][8][9] ac arweiniodd yr amodau annynol at y defnydd cyntaf o'r term Troseddau yn erbyn dynoliaeth ("Crimes against humanity").[10]
Mae Leolpold II yn parhau i fod yn ddadleuol hyd heddiw. Yn 1999 cysegrodd yr awdur Americanaidd Adam Hochschild y llyfr The Ghost of King Leopold i'w wladychiaeth frwd, ac i gribddeiliadau a llofruddiaethau'r "Force Publique". Ym 1931, dadorchuddwyd heneb fuddugoliaethus ar lan y môr yn Ostend, a diolchodd grŵp o Gongoliaid i'r brenin "am ein rhyddhau o gaethwasiaeth yr Arabiaid." Pan ddatgelwyd mwy a mwy o astudiaethau hanesyddol y troseddau a gyflawnwyd yn y Congo gan y gwladychwyr - am amser hir wedi'u cuddio gan hanes swyddogol - yn 2004 torrodd grŵp o weithredwyr law efydd un o'r Congoliaid, er mwyn "coffáu arfer oedd yn digwydd yn aml yn ystod teyrnasiad Leopold II ”. Yn 2016 sefydlodd cyngor y ddinas banel swyddogol newydd sy’n rhoi’r heneb yn ei chyd-destun trwy egluro ochr ddu gwladychu hefyd.[11]
Dadorchuddwyd system greulon, hiliol Leopold gan y Gwyddel Roger Casement (a ddienyddiwyd wedyn am ei ran yng Ngwrthryfel y Pasg dros annibyniaeth Iwerddon yn 1916. Roedd hefyd yn destun nofel fyd-enwog The Heart of Darkness gan Joseph Conrad.
Teulu
[golygu | golygu cod]Yn 1853 priododd Leopold â Maria Enriqueta o Awstria, merch yr Archesgob Josep Antoni o Awstria a Sofia o Württemberg. Roedd hi, felly, yn wyres i'r Ymerawdwr Leopold II, yr Ymerawdwr Ymerodraeth Lan Rufeinig a'r Dywysoges Maria Louise o Sbaen drwy dras tadol a mamol Louis o Württemberg a Mary Anna Czartoryska. Symudodd y cwpl i Frwsel ond yn fuan fe wnaethant fyw ar wahân a symudodd Maria Enriqueta i Spa. Roedd ganddyn nhw bedwar o blant:
- Louise a anwyd ym 1858 ym Mrwsel a fu farw ym 1924 yn Nice. Priododd y Tywysog Philip o Sacsoni-Coburg Gotha, a ysgarodd er mwyn byw gyda'i chariad yr Iarll Keglewitch, siambrlen ei gŵr.
- Ganwyd Leopold ym 1859 a bu farw ym 1869 ym Mrwsel.
- Ganwyd Stephanie ym 1864 ym Mrwsel a bu farw ym 1945 ym mynachlog Pannonhalma lle cafodd loches rhag y Fyddin Goch. Priododd â'r Tywysog Corong Rudolf o Awstria a fu farw ym 1889 ym Mayerling. Yn 1900 ailbriododd â'r Iarll o Hwngari, Elemer Lónyay o Nagy-Lónya a Vásáros-Namény, a gafodd ei ddyrchafu'n Dywysog ym 1917.
- Ganwyd Clementine ym Mrwsel ym 1872 a bu farw ym 1955. Priododd y Tywysog Napoleon Victor Bonaparte.
Godinebwr
[golygu | golygu cod]
Y Brenin: "Tria di'r un peth!"
Nid oedd priodas Leopold a Maria Enriqueta yn gariadus na ffyddlon iawn, a buan y buont yn byw ar wahân. Roedd Leopold yn enwog am ei odineb. Ymhlith nifer o garwriaethau byr, mae rhai hirhoedlog yn sefyll allan. Roedd yn edmygydd brwd o'r balerina, Cléo de Mérode, ac roedd y garwriaeth dybiedig - ond a wadwyd bob amser gan y rhai dan sylw - yn ysbrydoli cartwnyddion yr oes, a soniodd am y Brenin "Cleopold".[12] Yn 1900 cyfarfu â Blanche Delacroix (1883-1948), a elwir hefyd yn Caroline, a oedd ar y pryd yn ddwy ar bymtheg oed. Ar ôl marwolaeth y Frenhines Maria Enriqueta yn 1902 fe breswyliodd hi yn Villa Vanderborght, ger palas brenhinol Laken. Fe'i dyrchafodd hi i'r dosbarth bonheddig gyda'r teitl Barwnes iddi. Roedd ganddo ddau o blant o'r berthynas odinebus hon, Lucian (1906 - 1983) a Philip (1907 - 1914). Hefyd rhoddodd dŷ iddi yn Ostend, Villa Caroline a chastell Balincourt yn y Val-d'Oise (Ffrainc). Ym 1909 priododd Blanche bum niwrnod cyn iddo farw mewn seremoni Gatholig nad oes iddi ddilysrwydd cyfreithiol yng Ngwlad Belg, er gwaethaf y ffaith bod y gynhadledd esgobol ddydd Sul yn ddiweddarach wedi darllen llythyr bugeiliol i holl eglwysi’r deyrnas i gyhoeddi’r briodas a chanmol ffydd y brenin.[13] Yn fuan ar ôl marwolaeth ei gŵr, bu rhaid iddi adael llys Gwlad Belg a chario “chwe chês dillad hir Congo” a fyddai’n caniatáu iddi fyw ac ymddeol heb boeni. Wyth mis yn ddiweddarach, priododd Blanche ei chariad Antoine Durrieux.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-24. Cyrchwyd 2020-07-08.
- ↑ 2.0 2.1 https://www.youtube.com/watch?v=dTq6Hhkpw2s
- ↑ http://www.spiegel.de/einestages/kolonialherr-leopold-ii-das-belgische-monster-a-951236.html
- ↑ http://dicocitations.lemonde.fr/citations/citation-25234.php
- ↑ https://fr.wikisource.org/wiki/L%C3%A9opold_II_et_son_r%C3%A8gne%7Cvolum=55%7Cdata=1910%7Cpàgines=669-698
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=ZQmyjHMVcro
- ↑ "Belgium's genocidal colonial legacy haunts the country's future". The Independent. 17 October 2017. Cyrchwyd 9 June 2020.
- ↑ "The hidden holocaust". The Guardian. 13 May 1999. Cyrchwyd 9 June 2020.
- ↑ https://www.vrt.be/vrtnws/nl/2020/06/05/leopold-ii-portret-en-controverse/
- ↑ Hochschild, Adam (1999). King Leopold's Ghost: A Story of Greed, Terror, and Heroism in Colonial Africa (arg. 1st). Boston: Houghton Mifflin. tt. 111–112. ISBN 978-0-618-00190-3.
- ↑ http://deredactie.be/cm/vrtnieuws/regio/westvlaanderen/1.2764959
- ↑ http://www.levif.be/actualite/belgique/l-amour-a-la-cour-de-belgique-entre-desillusions-et-scandales/article-normal-405925.html
- ↑ http://www.dbnl.org/tekst/woes002verz14_01/woes002verz14_01_0069.php
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
Cyfryngau perthnasol Leopold II, brenin Gwlad Belg ar Gomin Wicimedia- Bywgraffiad swyddogol ar wefan Teulu Frenhinol Gwlad Belg
- Archive Léopold II Amgueddfa Frenhinol Canol Affrica
- Belgian Congo, rhaglen ddogfen
- Leopold II of Belgium: The Biggest Coverup In European History
| Rhagflaenydd: Leopold I |
Brenin Gwlad Belg 1865 – 1909 |
Olynydd: Albert I |